Penfro i ddileu swydd prif weithredwr?

  • Cyhoeddwyd
Bryn Parry JonesFfynhonnell y llun, Pembrokeshire council
Disgrifiad o’r llun,
Fe wnaeth Mr Parry-Jones adael ei swydd ym mis Hydref

Fe all swydd prif weithredwr Penfro gael ei dileu yn dilyn arolwg gan gynghorwyr.

Mae'r swydd wedi bod yn wag ers i Bryn Parry-Jones ymddiswyddo ym mis Hydref a hynny yn dilyn ffrae ynglŷn â thaliadau cyflog.

Ddydd Iau fe wnaeth y cynghorwyr sir gwrdd ar gyfer dechrau proses oedd fod i ddewis olynydd iddo.

Ond yn hytrach na gwneud hynny, maen nhw wedi penderfynu cynnal arolwg i weld a oes angen swydd prif weithredwr o gwbl.

Bydd yr arolwg yn ysytyried a oes modd rhannu dyletswyddau'r prif weithredwr ymhlith uwch swyddogion eraill y cyngor.

Pe bai nhw'n penderfynu cymryd y cam o ddileu'r swydd, y nhw fyddai'r cyngor cyntaf yng Nghymru i fod heb brif weithredwr.

Mr Parry Jones oedd derbyn y tal uchaf, sef £195,000 y flwyddyn, o holl brif weithredwyr y 22 cyngor sir yng Nghymru.

Fe wnaeth Mr Parry-Jones roi'r gorau i'w swydd ar ôl i gynghorwyr basio pleidlais o ddiffyg hyder ynddo ar ôl ffrae am arian a dderbyniodd yn lle cyfraniadau pensiwn.

Roedd Swyddfa Archwilio Cymru wedi penderfynu fod cyngor Sir Benfro wedi gweithredu'n anghyfreithlon drwy adael i Mr Parry-Jones, ac uwch swyddog arall yn Sir Benfro ddewis peidio cymryd rhan mewn cynllun pensiwn a derbyn taliadau arian parod yn lle hynny.