Tywysog Charles i wylio gorymdaith milwyr yn Abertawe
- Cyhoeddwyd
Bydd y Tywysog Charles gwylio milwyr sydd wedi dychwelyd o Afghanistan yn gorymdeithio drwy ddinas Abertawe.
Bydd milwyr y Queen's Dragoons Guards - y Cafalri Cymreig - yn cwrdd y Tywysog, sydd hefyd yn brif gyrnol i'r gwarchodlu.
Y milwyr oedd yr olaf o Brydain i adael talaith Helmand yn Afghanistan yn gynharach eleni.
Yn ystod ei ymweliad fe fydd y tywysog yn cael ei dywys o amgylch Neuadd y Ddinas, adeilad sydd wedi ei adnewyddu yn ddiweddar.
Yno bydd cyfle iddo gwrdd â theuluoedd y milwyr.
Fe fydd rhai o ffyrdd y ddinas ar gau yn ystod yr orymdaith a'r seremoni y tu allan i Neuadd y Ddinas bnawn dydd Gwener.
Yn ystod y bore fe fydd y tywysog yn ymweld a Sir Caerffili, ac yno bydd yn agor Neuadd Goffa Trecelyn yn swyddogol.
Fe wnaeth yr adeilad rhestredig gradd II, sy'n dyddio'n ôl i 1925, ddod yn agos i ennill rhaglen Restoration y BBC.
Mae'r gwaith adnewyddu wedi cymryd 10 mlynedd i'w gwblhau.