Miloedd o adar wedi marw wedi stormydd Sir Benfro
- Cyhoeddwyd

Mae'n debyg bod miloedd o balod (puffins) sydd fel arfer yn byw ar ynysoedd oddi ar Sir Benfro, wedi marw yn dilyn stormydd y gaeaf diwethaf.
Y gred yw nad oedd yr adar yn gallu dod o hyd i ddigon o fwyd yn dilyn gwyntoedd cryfion o Fôr yr Iwerydd.
Mae ymchwilwyr yn amcangyfrif bod hyd at 5,000 o adar wedi marw, tua chwarter o'r boblogaeth ar ynysoedd Sgomer a Sgogwm.
Roedd arbenigwyr sy'n monitro'r adar yn poeni ar ôl i tua 12,000 o'r adar gael eu darganfod yn farw yn Ffrainc.
'Pryderus'
Yn y gwanwyn, aeth yr ymchwilwyr i weld faint o'r 20,000 o adar oedd yn byw ar yr ynysoedd fyddai'n dychwelyd wedi'r gaeaf.
"Fe wnaethon ni ddarganfod bod tua chwarter o'r adar y bydden ni'n disgwyl i ddychwelyd heb wneud - rhywbeth fel 5,000 o balod yn Sir Benfro fydd wedi marw dros y gaeaf diwethaf," meddai'r Dr Matt Wood o Brifysgol Sir Gaerloyw.
"Rydyn ni wedi bod yn dilyn palod ar Sgomer ers 40 o flynyddoedd a dydyn ni heb weld dim fel hyn o'r blaen."
Mae'r adar hefyd yn cael rhai bach yn hwyrach, ac yn cael llai o fwyd na'r llynedd.
Parth Cadwraeth Morol
Mae cyn warden Sgomer, Stephen Sutcliffe wedi dweud bod y sefyllfa yn un drwg, ac fe all y sefyllfa waethygu.
"Mae'n rhaid i ni fod yn bryderus. Fe all yr amodau tywydd difrifol yma gael effaith arwyddocaol drôn nifer o flynyddoedd," meddai.
"Ond dydw i ddim yn rhy bryderus oherwydd mae adar y môr yn gallu gwrthsefyll llawer..."
Ddydd Gwener, cafodd y môr o amgylch Sgomer eu dynodi yn Barth Cadwraeth Morol, y cyntaf yng Nghymru.
Cafodd cynllun i greu 10 ardal debyg o amgylch arfordir Cymru eu tynnu'n ôl yn 2013 yn dilyn pryder gan bysgotwyr.
Ardal gadwraeth
Heddiw, mae Gweinidog Adnoddau Naturiol Cymru, Carl Sargeant AC, wedi cyhoeddi mai Ynys Sgomer fydd yr ardal gadwraeth forol gyntaf yng Nghymru (MCZ).
Dywedodd Carl Sargeant AC: "Mae Ynys Sgomer wedi cael ei chydnabod fel ardal bwysig ym maes cadwraeth morol ers iddi gael ei dynodi fel gwarchodfa natur forol yn 1990.
"Mae llawer o heriau yn wynebu'r amgylchedd forol, felly rwy'n falch y bydd yr ardal o amgylch Sgomer yn parhau i gael ei diogelu.
"Rydym yn gweithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru a'r Cydbwyllgor Cadwraeth Natur i gynnal asesiad o'r 128 o ardaloedd gwarchodedig morol, sydd eisoes yn bodoli yn nyfroedd Cymru."