Digwyddiad yng Nghaergybi: dyn wedi marw
- Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi marw a dyn arall wedi ei arestio yn dilyn digwyddiad difrifol yn ymwneud â dyn ar ben to tafarn tref yng Nghaergybi
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i dafarn Blossoms yn ardal Rhos y Gaer am 16:00 brynhawn dydd Gwener, lle roedd dyn 24 mlwydd oed wedi ymosod ar ddyn arall 46 mlwydd oed.
Er gwaethaf ymdrechion swyddogion yr Heddlu a'r Parafeddygon bu farw'r dyn 46 mlwydd oed o'i anafiadau ar y safle.
Fe ddringodd y dyn 24 mlwydd oed sy'n cael ei amau o'r ymosodiad i ben to tafarn cyfagos, yr Holland Inn, lle yn dilyn trafodaethau, llwyddodd yr Heddlu i'w arestio.
Mae'r dyn yn y ddalfa ar hyn o bryd tra bod yr ymchwiliad yn mynd yn ei flaen.
Dywedodd yr Uwcharolygydd Andy Jenks-Gilbert: "Hoffwn gymryd y cyfle yma i ddarbwyllo aelodau o'r cyhoedd nad oes unrhyw beryg i drigolion lleol."
Mae'r Heddlu yn apelio am dystion - ac fe ddylai unrhyw un sydd a gwybodaeth gysylltu â'r Heddlu ar 101.
Yn syth wedi'r digwyddiad roedd yr Heddlu wedi cau'r ardal ger y digwyddiad ac roedd nifer o strydoedd wedi cau hefyd.
Bu'n rhaid i fusnesau gau ei drysau.
Am 16:45 roedd yr Happy House, sy'n gwerthu bwyd parod yn ardal Stryd yr Eglwys o'r dre, yn paratoi i agor eu drysau, ond fe ofynnodd yr Heddlu iddyn nhw aros yng nghau a hynny oherwydd "digwyddiad difrifol iawn".
Yn ogystal, roedd yr heddlu wedi gofyn iddyn nhw aros y tu mewn i'r adeilad ac i beidio â mentro tu allan.
Dywedodd gohebydd Wales Today, Roger Pinney, bod swyddogion fforensig bellach wedi cyrraedd y safle.
Erbyn 20:15 roedd y brif ffordd heibio'r orsaf rheilffordd wedi ailagor, ond mae Holborn Road yn dal ar gau ac mae'r heddlu wedi mynd â cherbyd o'r safle.
Dywedodd Tony Pan, sy'n gogydd yn yr 'Happy House,' wrth BBC Cymru Fyw ei fod yn gallu gweld llawer o gerbydau'r Heddlu ac un ambiwlans yn yr ardal a bod yr Heddlu wedi cau'r ardal yma i geir a cherddwyr.