Cysondeb Casnewydd
- Cyhoeddwyd

Yr Ail Adran
Casnewydd 2-0 Stevenage
Mae buddugoliaeth Casnewydd yn golygu bod eu rhediad diweddar yn parhau - dyw Casnewydd heb golli ers naw gem. Mae'r tri phwynt yn golygu eu bod wedi codi i'r chweched safle yn yr ail adran.
Sgoriodd Aaron O'Connor hanner ffordd drwy'r hanner cyntaf, cyn i Darren Jones ychwanegu un arall eiliadau yn unig cyn yr egwyl.
Yn hwyr yn ail hanner fe ddanfonwyd O'Connor o'r maes am dacl hwyr ar Ron Henry.