Heddlu arfog yn Abertawe
- Cyhoeddwyd

Cafodd heddlu arfog eu galw i dŷ yn Abertawe mewn ymateb i "ddigwyddiad".
Fe alwyd y plismyn i Stryd Sebastopol, St. Thomas tua 11:35 dydd Sul.
Yn ol Arolygydd Chris Truscott roedd heddlu arfog yno er mwyn "sicrhau diogelwch swyddogion yr heddlu a'r cyhoedd."
Deellir fod yr heddlu chwilio am ddyn a oedd yn ymddwyn yn fygythiol â chyllell.