Arian mawr i Aber
- Cyhoeddwyd

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi llwyddo i ddenu buddsoddiad o £20 miliwn gan un o gronfeydd yr Undeb Ewropeaidd.
Bydd yr arian yn helpu'r brifysgol i adeiladu canolfan ymchwil newydd ar gampws Gogerddan.
Mae gan y coleg gynlluniau i ddatblygu adnodd newydd a fydd yn datblygu gwasanaethau a chynnyrch ym meysydd bio-technoleg, iechyd a bwyd cynaliadwy.
Eu bwriad maes o law yw denu rhagor o gyllid ymchwil er mwyn cynnal prosiectau cydweithredol a fydd yn hybu bio-economi.
Wrth gyhoeddi'r buddsoddiad dywedodd Jane Hutt, Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru; "Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i greu cyfleuster o'r radd flaenaf er mwyn denu cyllid ymchwil preifat a chystadleuol."
"Bydd hyn yn helpu Cymru i arwain y ffordd o ran datblygu technolegau, cynhyrchion a gwasanaethau arloesol yn y sector bio-wyddorau, sy'n hanfodol ar gyfer gwella nifer o swyddi a'r twf yn economi wybodaeth ein gwlad."
'Cyfraniad sylweddol'
Mae'r cyhoeddiad yn hwb ariannol enfawr i'r brifysgol. Dywedodd yr Athro April McMahon, Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth:
"Rydyn ni'n ddiolchgar iawn am y cyfraniad sylweddol o arian Ewropeaidd. Rwy'n hyderus y bydd y datblygiad yn sicrhau bod y brifysgol yn parhau i wneud gwaith ymchwil effeithiol, gan roi llwyfan ar gyfer gweithio ochr yn ochr â diwydiant i ateb problemau byd-eang, a dod â swyddi a thwf angenrheidiol i'r Gorllewin."
Mae'n debyg y bydd y prosiect yn costio tua £40 miliwn, ac mae'r Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol yn cyfrannu £15 miliwn.
Mae'r arian Ewropeaidd yn rhan o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop ac yn rhan o gynlluniau ehangach gan yr Undeb Ewropeaidd i wario £2 biliwn ar brosiectau rhwng 2014 a 2020.