Buddugoliaeth i'r Scarlets
- Cyhoeddwyd

Rhys Priestland yn cicio Scarlets Llanelli i fuddugoliaeth
Cwpan Pencampwyr Ewrop
Scarlets 22 -13 Ulster
Rhys Priestland oedd seren y gêm - a'r prif sgoriwr - wrth i'r Scarlets guro Ulster ym Mharc y Scarlets.
Mae'r canlyniad yn cadw gobeithion y Scarlets yn fyw yng ngrŵp 3.
Sgoriodd y blaenasgellwr James Davies unig gais y Scarlets -wrth iddo ryng-gipio'r bêl a rhedeg o dan y pyst ym munudau ola'r gem.
Roedd cicio cywir Priestland yn ddigon i ennill y gêm yng nghanol gwynt a glaw Llanelli.
Roedd gan y Scarlets 12 pwynt o fantais ar yr egwyl cyn i Ulster daro nôl gyda chymorth cais Darren Cave.
Ond cais y blaenasgellwr ifanc wnaeth sicrhau'r fuddugoliaeth.