Achub menyw o Afon Hafren yn Y Drenewydd
- Cyhoeddwyd

Mae menyw wedi ei chludo i'r ysbyty wedi iddi gael ei hachub o Afon Hafren yn Y Drenewydd yn oriau mân bore Llun.
Fe gafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu galw tua 1.30am.
Yn ôl llefarydd, roedd y fenyw "mewn dŵr oedd yn llifo'n gyflym".
Fe ddefnyddiodd 16 o ddiffoddwyr o'r Drenewydd, Y Trallwng ac Aberystwyth offer arbenigol a chwch i achub y fenyw.