Llofruddiaeth Caergybi: Dyn yn y llys
- Cyhoeddwyd

Bu farw David Jones yn dilyn y digwyddiad bnawn Gwener
Mae dyn wedi ymddangos yn llys ynadon Caernarfon, wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn digwyddiad yng Nghaergybi ddydd Gwener.
Fe gafodd Peter Garrod, 24 o Drearddur, ei gyhuddo nos Sul, yn dilyn marwolaeth David Jones yn nhafarn Blossoms yn y dre.
Yn ystod y gwrandawiad pedwar munud o hyd, fe siaradodd Garrod i gadarnhau ei enw a'i gyfeiriad.
Wnaeth ei gyfreithiwr ddim gwneud cais am fechnïaeth.
Fe fydd yr achos yn symud i Lys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Mawrth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2014