Rhys Ifans: Dylan a fi
- Cyhoeddwyd
.jpg)
Un o uchafbwyntiau'r teledu dros y Nadolig fydd 'Dan y Wenallt', ffilm yn seiliedig ar addasiad Cymraeg T James Jones o waith Dylan Thomas.
Un o sêr y ffilm yw Rhys Ifans sy'n chwarae rhan y Llais Cyntaf a Capten Cat. Ar Bore Cothi, BBC Radio Cymru, ar 16 Rhagfyr, cafodd Shân Cothi sgwrs gyda Rhys am y ffilm a'i drefniadau ar gyfer y Dolig.
Mae hi'n fersiwn heriol, rhywiol...
Dydy'r ffilm ei hun ddim yn fwy rhywiol na'r darn ysgrifenodd Dylan ei hun. Mae'n ddarn nwydus, nwydus iawn yn llawn delweddau rhywiol, sexy. 'Dan ni gyd yn breuddwydio'n fochynaidd. Mae'r pregethwr cynorthwyol glana'n y byd yn cael breuddwydion mochynaidd weithiau mae'n siŵr.
Temtasiwn, a dyna be' 'di'r darn, am bentre' sydd â'u breuddwydion rhyfedd nhw, a dyna be', mewn ffordd, oedd Dylan Thomas yn ei ddychanu. Tu ôl i ddrysau a ffenestri caeedig y pentref bach yma mae 'na fyd arall.
Dehongliad gwahanol, yn weledol i'r un mae rhai'n eu cofio nôl yn '72:
Mae'n wahanol iawn i'r gwreiddiol, mae'r ffilm yna o'i hamser, o'i chyfnod. Mae hwn yn brofiad bach yn fwy seicadelig efallai, ond dydan ni ddim wedi cymryd mantais o be' mae Dylan a Jim Parc Nest wedi ei gyfieithu mor wych. Mae'r material i gyd yna ar y dudalen felly os ydi hi'n goch, bai Dylan Thomas ydi o, nid fi! Ond mae o'n banquet o ddarn.
Sut brofiad oedd hi i addasu'r darn?
Roedd hi wedi eu hysgrifennu'n barod, roedd Jim wedi eu haddasu hi...roedden ni eisiau dod ati hi ddim mewn ffordd mor linear efallai â ffilm y 70au a chynyrchiadau sydd wedi bod ar lwyfan ers hynny.
Mae 'na dueddiad wedi bod efo rhai cynyrchiadau i neud o'n ddarn bach siocled bocsaidd saff. 'Da ni ddim wedi gwneud hynna.
Mae'n hyfryd o ddarn, yn llawn hoffter. Mae'r ffilm yn llawn hoffter ond mae Dan y Wenallt fel darn o waith yn llawn hoffter at y bobl yma. Does 'na'r un cymeriad yn y pentref yma'n Llareggub sydd yn berson atgas. Mae hwnna'n glir iawn yn ysgrifennu Dylan, bod o'n hoff iawn o'r bobl yma.
Rwyt ti wedi chwarae sawl cymeriad gan Dylan, gan gynnwys Dylan ei hun. Pryd ges di dy gyflwyno i'w waith?
Pan o'n ni yn y coleg drama, ro'n ni'n cael gwersi dawnsio tap. Dwi, pan yn dod at ddawnsio, fel babi jiráff ar rew, dwi'n beryg.
So nes i ofyn i bennaeth y coleg tra oeddwn i'n neud gwersi tap os fyswn i'n cael mynd i'r llyfrgell i wrando ar recordiau Dylan Thomas ac RS Thomas yn darllen y gwaith, a chwarae teg wnaeth hi adael fi i 'neud, neu bysa' fy ngyrfa i a gyrfa pawb arall wedi bod yn un boenus iawn!
Ti'n ffan fawr o'i waith, wedi cael gafael ar ei bersonoliaeth e - wyt ti byth yn blino?
Byth yn blino o'i waith. Byddai'n falch o roi o i'w wely am ychydig bach ar ôl leni, mae wedi bod yn flwyddyn fawr, a mae'r ffilm 'Dominion' nes i lle ro'n ni'n chwarae Dylan yn wahanol iawn i 'Dan y Wenallt', mae'n un tywyll, tywyll iawn.
Mi oedd hi'n dipyn o stretch mynd i'r lle tywyll na lle g'naeth Dylan orffen ei ddyddiau. Felly mae'r ddwy ffilm yn gwrthgyferbynnu mewn ffordd od iawn, ond dwi am roi heddwch i fi a heddwch i Dylan ar ôl hon.
Sut wyt ti'n ymdopi gyda'r pwysau o chwarae cymeriad sy'n mynd â thi i fan mor dywyll?
Mae'n boenus iawn ar y pryd, ond mae'n cathartic, dydi o ddim mor boenus â diweithdra.
Geiriau doeth iawn! Ti'n barod am y Dolig?
Dwi'n byw yng Ngwlad yr Haf ar hyn o bryd, a mae'r teulu i gyd yn dod lawr, fy mam, fy nhad, fy mrawd Llŷr ac mae gen i nai bach, Jacob (mab Llŷr) sy'n un wythnos nesa', felly bydd y baban Iesu gyda ni hefyd!
Dan y Wenallt, S4C, 21:30, 27 Rhagfyr
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2014