Marw mewn ffwrn: Dim achos i'w ateb
- Cyhoeddwyd

Mae achos yn erbyn dau ddyn busnes, oedd wedi'u cyhuddo mewn cysylltiad â marwolaeth cyd weithiwr mewn ffatri caiacs, wedi dod i ben ar ôl i'r barnwr ddweud nad oedd gan y ddau achos i'w ateb.
Bu farw Alun Catterall, 54, ddau ddiwrnod cyn y Nadolig yn 2010, wedi'r digwyddiad yn ffatri Pyranha Mouldings yn Runcorn.
Cafodd y tad i dri o blant oedd yn gweithio yn y ffatri ei losgi'n ddifrifol tra'n sownd mewn ffwrn ddiwydiannol.
Penderfynodd y barnwr yn Llys y Goron Lerpwl bod y rheolwr gyfarwyddwr Graham Mackereth, 65, o Runcorn, yn ddieuog o droseddau iechyd a diogelwch, a bod y peirianydd trydanol Paul Keddie, 49, o Langollen, hefyd yn ddieuog o gyhuddiadau tebyg.
Mae'r cwmni, Pyranha Mouldings Cyf, yn dal i wynebu achos o ddynladdiad corfforaethol.
Mae trydydd dyn, Peter Mackereth, 60, o Langollen - y dyn a gynlluniodd y ffwrn - hefyd yn wynebu cyhuddiadau o droseddau iechyd a diogelwch.
Mae o a'r cwmni yn gwadu'r cyhuddiadau yn eu herbyn.
Roedd Mr Catterall wedi mynd fewn i'r ffwrn ar 23 Rhagfyr, 2010, er mwyn ei lanhau.
Roedd y drysau wedi cloi yn awtomatig.
Doedd dim modd dianc na rhoi gwybod i unrhyw un am beth oedd wedi digwydd.
Dioddefodd Mr Catterall losgiadau difrifol, a bu farw o sioc.