Cynghorau Dinbych, Fflint a Gwynedd yn ystyried arbedion

  • Cyhoeddwyd
Cysgod-y-Gaer care home, Corwen
Disgrifiad o’r llun,
Fe allai cartef Cysgod-y-Gaer yng Nghorwen, Sir Ddinbych gael ei gau

Mae arweinwyr tri o gynghorau Cymru wedi bod yn cynnal cyfarfodydd pwysig ddydd Mawrth wrth geisio chwilio am arbedion ariannol.

Mae Cyngor Sir Y Fflint wedi cytuno cynllun drafft i arbed £16.4 miliwn ar ôl cyfarfod o'r cabinet.

Fe fydd y cyngor nawr yng ymgynghori ar y cynllun, sy'n cynnwys arolwg o niferoedd staff a thaliadau treth y cyngor.

Mae disgwyl i'r cyngor llawn ddod i gytundeb terfynol ym mis Chwefror.

Fe fydd cabinet Cyngor Gwynedd yn ystyried cynlluniau ar gyfer arbed £14.7m mewn tair blynedd er mwyn ceisio lleihau ar y bwlch ariannol o £50 miliwn.

Yn Sir Ddinbych mae disgwyl i'r cyngor ddechrau cyfnod o ymgynghori ar y posibilrwydd o gau tri chartref gofal ac un canolfan ddydd.

Mae disgwyl i gynnig Sir Ddinbych arbed £700,000 y flwyddyn.

Dywed swyddogion y sir y byddai preswylwyr yn cael lle mewn cartrefi arall. Ychwanegodd llefarydd eu bod yn gwneud eu gorau i osgoi unrhyw ddiswyddiadau.

Ym mis Rhagfyr, fe wnaeth Leighton Andrews gadarnhau y byddai cynghorau Cymru yn gweld gostyngiad o rhwng 2.4% a 4.5% yn eu cyllidebau yn 2015/2016 - cyfanswm o £146m.

Dywedodd Peredur Jenkins, aelod o gabinet Cyngor Gwynedd, y byddai'n well gan y cyngor ddod o hyd i ddarparu gwasanaethau yn rhatach yn hytrach na gorfod torri nôl ar y gwasanaethau.

"Rydym yn derbyn y byddai arbedion o ran effeithiolrwydd yn golygu newid yn y modd mae gwasanaethau yn cael eu darparu, ond mae'n bwysig cofio fod pob punt sy'n cael ei arbed yn y modd yma yn golygu punt yn llai o doriadau mewn gwasanaethau cyhoeddus."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol