Llofruddiaeth Caergybi: Cadw yn y ddalfa

  • Cyhoeddwyd
David Jones
Disgrifiad o’r llun,
Bu farw David Jones yn dilyn y digwyddiad bnawn Gwener

Mae dyn 24 oed o Drearddur, Ynys Môn, wedi ei gadw yn y ddalfa ar gyhuddiad o lofruddiaeth ar ôl ymddangos mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Yr Wyddgrug.

Fe fydd Peter Morrison Garrod yn ymddangos eto ar 24 Chwefror er mwyn pledio i'r cyhuddiad

Cafodd ei gyhuddo yn dilyn marwolaeth David Jones, 46, yn nhafarn Blossoms yng Nghaergybi ddydd Gwener.

Mae'n disgwyl i'r gwrandawiad llawn gael ei glywed ym mis Mai neu Fehefin.

Ddydd Mawrth fe wnaeth y diffynnydd ymddangos ar gyswllt fideo o flaen y barnwr Eleri Rees, oedd yn eistedd yn Llys y Goron Caerdydd.

Fe wnaeth y diffynnydd ond siarad i gadarnhau ei enw.