Ymgynghori am dri o gartrefi gofal
- Cyhoeddwyd

Mae cabinet Cyngor Sir Ddinbych wedi cytuno i ymgynghori am ddyfodol tri o gartrefi preswyl i'r henoed yn y sir.
Fe fydd yr ymgynghoriad yn ystyried anghenion unigol y 54 o drigolion sy'n byw yng nghartrefi Dolwen yn Ninbych, Awelon yn Rhuthun a Chysgod y Gaer yng Nghorwen.
Gobaith yr awdurdod lleol yw gwneud arbedion o £700,000 drwy drosglwyddo'r gwasanaeth i ddarparwr allanol.
Pwysleisiodd y cyngor na fydd unrhyw un o'r trigolion yn cael eu symud os na fydd lle amgen yn cael eu darparu ar eu cyfer.
Fe fydd yr ymgynghoriad hefyd yn ystyried y ddarpariaeth o ofal dydd, ac fe allai hynny gael effaith ar Ganolfan Hafan Deg yn Y Rhyl, sy'n gofalu am 10 o bobl.
Gallai cyfanswm o 106 o staff gael eu heffeithio gan y newid, os mai dyna fydd pen draw'r broses.
O blaid mesurau
Pleidleisiodd cabinet Cyngor Sir Ddinbych o blaid y mesurau canlynol:
Yn unol â'r fframwaith statudol priodol fe fydd ymgynghoriad gydag phob defnyddiwr unigol o'r gwasanaeth, a'u teuluoedd, mewn perthynas â'r argymhellion gan gynnwys asesiad o'u hanghenion ac argaeledd darpariaeth addas arall fydd yn cwrdd â'r anghenion hynny;
Fe fydd ymarferiad ymgynghoriad cyhoeddus ehangach ar foderneiddio pellach i wasanaethau cymdeithasol;
Bydd adroddiad ar ganlyniadau'r ymgynghoriadau a gyfeiriwyd atynt uchod yn cael ei gyflwyno i grŵp arbennig cyn ei gyflwyno i'r cabinet, a bydd dewis i asesu bod gwasanaeth yn unigol;
Mae'r cabinet yn cadarnhau na fydd unrhyw ddefnyddiwr unigol yn cael ei symud tan y bydd darpariaeth addas arall yn cael ei ganfod ar eu cyfer.
Yn y cyfamser, mae Cyngor Sir Y Fflint wedi cytuno cynllun drafft i arbed £16.4 miliwn ar ôl cyfarfod o'r cabinet.
Fe fydd y cyngor nawr yn ymgynghori ar y cynllun, sy'n cynnwys arolwg o niferoedd staff a thaliadau treth y cyngor. Mae disgwyl i'r cyngor llawn ddod i gytundeb terfynol ym mis Chwefror.
Fe fydd cabinet Cyngor Gwynedd yn ystyried cynlluniau ar gyfer arbed £14.7m mewn tair blynedd er mwyn ceisio lleihau ar y bwlch ariannol o £50 miliwn.
Yn gynharach yn y mis, cadarnhaodd y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus Leighton Andrews y bydd y 22 awdurdod lleol yng Nghymru yn wynebu toriadau i'w grantiau bloc gan Lywodraeth Cymru o rwng 2.4% a 4.5% - cyfanswm o £146m.