Cyhoeddi amserlen 2015 rygbi Cymru
- Cyhoeddwyd

Bydd paratoadau Cwpan Rygbi'r Byd tîm rygbi Cymru yn 2015 yn gweld y garfan yn teithio i'r Swistir, Qatar a Gwlad Pwyl yn ogystal â wynebu Iwerddon a'r Eidal.
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi dwy gêm baratoi yng Nghaerdydd yn erbyn yr Iwerddon a'r Eidal, ac un gêm oddi cartref yn Nulyn ym mis Awst a Medi.
Mae rhaglen URC yn dilyn misoedd o ymchwil a pharatoi, ac mae pennaeth perfformiad corfforol yr undeb, Adam Beard, yn falch iawn gyda'r paratoadau.
"Bydd y flwyddyn nesaf yn amser hynod o gyffrous a heriol i'r garfan.
"Rydym wedi datblygu amserlen lem fydd yn rhoi'r cyfle gorau i'r chwaraewyr lwyddo yng Nghwpan Rygbi'r Byd."
Roger Lewis
Ychwanegodd Prif Weithredwr URC Roger Lewis:
"Mae Warren Gatland a'i dîm wastad yn ymdrechu i wthio ffiniau ein perfformiad, a bydd eu hamserlen yn sicrhau fod Cymru yn cyrraedd Cwpan Rygbi'r Byd yn barod i lwyddo.
"Bedair blynedd yn ôl, gwelodd y garfan wobr eu gwaith caled cyn Seland Newydd a byddwn yn gobeithio am yr un math o ganlyniad yn yr Hydref."
Bydd Gatland yn cyhoeddi carfan estynedig ym mis Mehefin, gyda'r chwaraewyr yn cael eu hyfforddi am weddill y mis yng Nghanolfan Rhagoriaeth URC ym Mro Morgannwg.
Wedi pythefnos o ymarfer ar uchder o 2250 metr yn Fiesch yn y Swistir, bydd y garfan yn teithio i Qatar am naw diwrnod i ymarfer mewn tymheredd o dros 40 gradd.
Bydd y gyntaf o'u tair gêm baratoi ar 8 Awst, gyda Gwyddelod Joe Schmidt yn cael eu croesawu i Gaerdydd.
Cyn iddynt deithio i Ddulyn ar gyfer gem baratoi ar 29 Awst, bydd y garfan yn dychwelyd i Spala yng Ngwlad Pwyl, lleoliad eu paratoadau ar gyfer Cwpan y Byd Seland Newydd yn 2011.
Bydd carfan derfynol Gatland yn cael ei chyhoeddi ar 31 Awst, cyn i'r Eidal gael eu croesawu i Stadiwm y Mileniwm ar 5 Medi ar gyfer gêm baratoi olaf y tîm cyn eu gêm Cwpan y Byd agoriadol yn erbyn Uruguay ar 20 Medi.
Gatland
Dywedodd Warren Gatland:
"Mae'r gwersylloedd ymarfer wedi'u cynllunio i wthio'r garfan i'r eithaf a sicrhau ein bod ar ein gorau yng Nghwpan y Byd. Roeddem yn hapus iawn gyda chanlyniadau ein paratoadau yn 2011, ac nid yn unig ydym ni wedi defnyddio beth ddysgon ni bryd hynny, rydym ni wedi ychwanegu at hynny.
"Canolbwynt y tymor yw paratoi ar gyfer mis Medi, ac mae'r gwaith caled wedi dechrau yn barod gyda'r garfan yn ystod gemau'r Hydref.
"Rydym wedi siarad yn hir am fudd bod gyda'n gilydd fel carfan am gyfnodau hir ac rwy'n siŵr y bydd y canlyniadau yn dangos hynny yng Nghwpan y Byd."
Manylion gemau paratoi Cwpan Rygbi'r Byd 2015 (amseroedd i'w cadarnhau):
- Cymru v Iwerddon, Stadiwm y Mileniwm, Dydd Sadwrn 8 Awst;
- Iwerddon v Cymru, Stadiwm Aviva, Dulyn, Dydd Sadwrn 29 Awst;
- Cymru v Yr Eidal, Stadiwm y Mileniwm, Dydd Sadwrn 5 Medi.