Achub o afon: Dyn yn parhau i fod yn yr ysbyty
- Published
image copyright@fitted_shirt ar Twitter
Mae dyn yn parhau i fod yn yr ysbyty wedi iddo gael ei achub o Afon Taf yng Nghaerdydd nos Fawrth.
Fe lithrodd i mewn i ffos, torri ei ben-glin a syrthio i'r afon.
Fe anfonodd y gwasanaeth tân ddau gwch i geisio helpu, a bu heddlu a pharafeddygon yn rhan o'r ymgyrch i achub y dyn ger pont Heol Penarth oddeutu 8.20pm.
Does dim rhagor o fanylion am gylfwr y dyn.
Straeon perthnasol
- Published
- 17 Rhagfyr 2014