'Ffrwydron ac ofn': Argraffiadau o'r Dwyrain Canol
Steffan Messenger
Newyddion BBC Cymru
- Cyhoeddwyd
I bobl Israel a Gaza roedd hi'n haf hir o ffrwydron ac ofn.
Yn ystod saith wythnos a mwy o wrthdaro, bu farw dros 2,100 o Balesteiniaid a 73 o Israeliaid.
Ar y pryd, fe deithiais i a'r dyn camera Rhys Williams i'r rhanbarth i ohebu ar y sefyllfa ar gyfer rhaglenni newyddion BBC Cymru.
Bellach, bedwar mis ers y cadoediad rhwng Israel a Hamas fe aethon ni'n ôl yno, wedi derbyn caniatâd y ddwy ochr i deithio i Gaza ei hun.
Ein man cychwyn oedd Shejaiyah yn Ninas Gaza, lle collwyd strydoedd cyfan dan rym bomiau.
Yno roedd brwydro ffyrnig rhwng byddin Israel a gwrthryfelwyr wedi gadael ei ôl, clwyfau rhyfel ar bob wal a phalmant, adeiladau'n deilchion.
Colli teulu
"Roeddwn i ond newydd orffen ailgodi fy nhŷ yn dilyn y rhyfel diwetha'," meddai un wraig oedrannus oedd yn eistedd yng nghanol yr adfeilion.
"Nawr mae e wedi mynd eto. Ond y tro hwn dwi wedi colli fy ngŵr, dau fab, a dau o'm hwyrion hefyd."
Yn ôl ffigyrau'r Cenhedloedd Unedig (CU), cafodd dros 20,000 o gartrefi eu chwalu yn ystod yr haf, a thros 80,000 eu difrodi.
Er fod biliynau o bunnoedd wedi'u cyfrannu ar draws y byd i ailadeiladu Gaza, prin yw'r arwyddion ohono'n digwydd.
Israel sy'n rheoli'r ffin ac maen nhw'n poeni fod gwrthryfelwyr yn cymryd sment a choncrit i ailgreu eu twneli.
Ond mae cytundeb gyda'r CU yn golygu fod y gwaith nawr yn araf ddechrau.
Ailgodi cartrefi
"Ry'n ni'n paratoi pobl i helpu'u hunain ac ailgodi eu cartrefi," meddai Christopher Gunness, o'r CU, wrthon ni yn eu pencadlys lleol yn Ninas Gaza.
"Drwy roi arian i bobl fe allan nhw wedyn fynd i brynu deunyddiau. Ond mae angen y deunyddiau hynny ac, ar hyn o bryd, does na'm digon yn dod i fewn."
Roedd un o'r adfeilion yn arfer bod yn ysbyty - nodiadau cleifion yn gwthio drwy'r rwbel. Honni fod gwrthryfelwyr yn defnyddio'r ysbyty fel canolfan reoli wnaeth byddin Israel.
Ond roedd y difrod yn golygu fod gwasanaethau meddygol yn y ddinas dan bwysau.
Mewn stryd gyfagos, daethon ni ar draws un o sawl clinic symudol sy'n ceisio ateb y galw.
'Pethau bach yn gwneud gwahaniaeth'
Mewn fan wen a sticeri'r Ddraig Goch arni, roedd 'na ddeintydd yn trin bachgen ifanc.
Yr Eglwys yng Nghymru sydd wedi talu am y gwasanaeth ers dros 15 mlynedd.
Yn ôl Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan, mae'n "beth bach iawn sydd wedi gwneud gwahaniaeth mawr i bobl Gaza - nid dim ond yn ddeintyddol ond yn emosiynol - fod 'na bobl y tu allan i'w sefyllfa nhw sydd â chonsyrn mawr amdanyn nhw."
Fuon ni hefyd yn ymweld â Sderot, pentre' ar y ffin â Gaza, a welodd gannoedd o rocedi yn cael eu tanio o'r diriogaeth yn ystod yr haf.
Yno mae gan barciau chwarae hyd yn oed lochesi concrit rhag y bomiau.
Fe wnaethon ni gwrdd ag Idit ac Eitan, plant oedd yn gyfarwydd iawn â gorfod rhedeg am gysgod.
"Mae'n gallu bod yn frawychus iawn byw yma," meddai Israel, eu tad, wrtha' i.
"Mae wedi bod yn dawel ers yr haf a ry'n ni'n gobeithio ac yn gweddïo bydd hynny'n parhau."
Tensiynau'n dal i ferwi
Ond mewn gwirionedd mae'r sefyllfa bresennol yn bell o fod yn gytundeb heddwch hirdymor. Mae 'na densiynau'n dal i ferwi ar y ddwy ochr, a phryder bod cenhedlaeth newydd yn cael ei sugno i ganol y gwrthdaro hanesyddol.
I Sarah a Malka, dwy chwaer o Gaerdydd yn wreiddiol, sydd wedi byw yn Jerwsalem ers blynyddoedd, mae wedi bod yn gyfnod pryderus:
"Mae'r awyrgylch wedi newid yn y ddinas," meddai Sarah. "Mae lot o bobl yn bryderus i fynd i lefydd cyhoeddus."
"Bob wythnos mae 'na rhywbeth yn digwydd," ychwanegodd Malka. "Rhyw derfysgwr yn taro rhywun. O'dd na attack pum munud o fan hyn, o'dd na un arall ar y safle trên dwi'n defnyddio bob dydd, ac un ger yr ysbyty lle dwi'n gweithio."
Anodd rhagweld y dyfodol
Ac yn ôl Malcolm Lowe, Cymro arall sydd wedi byw yn Jerwsalem ers 40 mlynedd, mae'n amhosib rhagweld y dyfodol.
Meddai: "Does dim dyfodol yn y Dwyrain Canol, mae pethau'n newid mor gyflym.
"Mae siarad am yr hirdymor yn lol yma. Y gwir yw fod pethau wedi bod yn llawer gwaeth yn y gorffennol nag ydyn nhw ar hyn o bryd."
Wrth i'r tensiynau gynyddu, bydd 'na weddïo ar y ddwy ochr am gyfnod tawelach.
Ond gydag etholiadau ar y gorwel yn Israel, tra fod rhannau o Gaza'n dal mewn adfeilion, fe fyddai sawl un yn dadlau fod hynny'n annhebygol.
Straeon perthnasol
- 9 Awst 2014