Byrddau iechyd yn methu cyrraedd targedau trin canser

  • Cyhoeddwyd
Triniaeth canserFfynhonnell y llun, SPL
Disgrifiad o’r llun,
Ystadegau misol yn dangos fod byrddau iechyd Cymru wedi methu â chyrraedd un o dargedau triniaeth i gleifion sydd wedi ei osod gan Lywodraeth Cymru.

Mae ystadegau misol ar dargedau canser wedi dangos fod pob un o chwe bwrdd iechyd Cymru wedi methu â chyrraedd un o ddau darged Llywodraeth Cymru ar gyfer trin cleifion, a thri o'r chwe bwrdd wedi methu'r ddau.

Yn ôl yr ystadegau am fis Hydref, ni wnaeth unrhyw un o'r chwe bwrdd iechyd lleol gwrdd â'r targed o ddechrau triniaeth gychwynol o fewn 62 diwrnod ar gyfer 95% o gleifion sydd newydd dderbyn diagnosis canser, ac sydd wedi eu cyfeirio fel achosion brys.

86.8% o'r cleifion yn y categori hwnnw a gafodd eu triniaeth gynta' o fewn y cyfnod o ddeufis.

Fe wnaeth tri allan o'r chwe bwrdd iechyd lleol gwrdd â'r targed sy'n dweud y dylai o leiaf 98% o gleifion sydd newydd dderbyn diagnosis canser, ond heb eu cyfeirio fel achosion brys, ddechrau ar driniaeth o fewn 31 diwrnod.

Yn ôl y cyfartaledd ar draws Cymru, roedd 97.5% o gleifion a oedd newydd dderbyn diagnosis canser, ond heb eu cyfeirio fel achosion brys, wedi dechrau ar driniaeth ddiffiniol o fewn 31 diwrnod.