Dirprwy olygydd newydd i Radio Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae BBC Cymru wedi penodi Ynyr Williams yn Ddirprwy Olygydd Radio Cymru.
Mr Williams oedd Cynhyrchydd Cyfres Pobol y Cwm am saith mlynedd.
Fe oedd wrth y llyw wrth i'r gyfres sebon gael ei ffilmio yn ei chartre' newydd ym Mhorth y Rhath.
Bydd yn gweithio'n bennaf o ganolfan y BBC ym Mangor.
Cyn ymuno â'r BBC roedd yn gynhyrchydd annibynnol am bron i 20 mlynedd.
Mae wedi ennill nifer o wobrwyon, gan gynnwys y rhaglen ddogfen orau, Johnny Owen - The Long Journey,a'r ffilm ddogfen orau, Dal,Yma/Nawr.
Mae wedi gweithio yn Ewrop a gyda chwmnïau yn yr Unol Daleithiau.