Mentrau: 'angen ysytyried yr iaith yn llawn"

Adeiladu tai
Image caption Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud mai bwriad cyflwyno'r mesur yw symleiddio a chyflymu'r broses gynllunio

Mae cadeirydd Mentrau Iaith Cymru, Meirion Davies, wedi anfon llythyr at un o bwyllgorau'r Cynulliad yn galw am i'r iaith Gymraeg gael ei chynnwys yn y Mesur Cynllunio.

Cafodd y llythyr ei arwyddo gan gynrychiolwyr 23 o fentrau iaith Cymru.

Mae'r llythyr yn dweud: "Mae angen datganiad statudol diamwys ei bod hi'n gyfreithlon i gymryd ystyriaeth o faterion yn ymwneud â hyfywedd y Gymraeg fel iaith gymunedol wrth ystyried ceisiadau cynllunio.

"Heb sylfaen o'r fath mae polisïau megis TAN 20 yn ddi-werth."

Mae Mr Davies eisoes wedi rhoi tystiolaeth ar lafar i Bwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Cynulliad.

Dywedodd: "Mae'n holl bwysig i ni sicrhau bod y Gymraeg yn ymddangos ar wyneb y Bil Cynllunio er mwyn sicrhau ei bod hi'n cael ei hystyried wrth i benderfyniadau cynllunio gael eu gwneud ...

Ystyriaeth statudol

"Tydan ni ddim eisiau gweld datblygiad amhriodol ond yn croesawu cynllunio priodol sydd yn cryfhau'r Gymraeg."

Mae Cymdeithas yr iaith wedi galw ar Lywodraeth Cymru i wneud y Gymraeg yn ystyriaeth statudol o fewn y system gynllunio.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud mai bwriad cyflwyno'r mesur yw symleiddio a chyflymu'r broses gynllunio.

Yn y gorffennol maen nhw wedi dweud mai "trwy gynlluniau datblygu lleol y dylid ystyried effeithiau cynllunio ar y Gymraeg."

Straeon perthnasol