Dogfennau cabinet 1985: Pryderon am doriadau Cymru
- Cyhoeddwyd

Yn ôl papurau archif cabinet San Steffan, fe gafodd Margaret Thatcher ei rhybuddio fel prif weinidog y byddai toriadau mewn gwariant rhanbarthol yn ei niweidio yn wleidyddol yng Nghymru.
Mae papurau swyddogol y llywodraeth o 1985 yn dangos bod Ysgrifennydd Cymru ar y pryd, Nicholas Edwards, wedi ymateb yn chwyrn i'r syniad o dorri ar grantiau datblygu i Gymru.
Roedd y grantiau rhanbarthol yn ffordd lwyddianus iawn o ddenu buddsoddiad i Gymru. Ynghanol yr 1980au fe sicrhaodd Gymru 20% o'r buddsoddiad mewnol i'r Deyrnas Unedig, er mai dim ond 5% o'r boblogaeth oedd yn byw yn y wlad.
Torri ar wariant
Ond yn debyg iawn i'r llywodraeth bresennol roedd llywodraeth Margaret Thatcher yn ceisio torri ar wariant cyhoeddus, ac un o'r targedau oedd grantiau rhanbarthol ar gyfer diwydiant yn Lloegr.
Byddai hynny wedi effeithio ar gyllideb Swyddfa Cymru ac, fel y dengys dogfennau o'r archif, roedd yr Ysgrifennydd Gwladol, Nicholas Edwards, yn gandryll.
Mewn llythyr at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys, Peter Rees - dogfen gafodd ei hanfon hefyd at Margaret Thatcher - mae Mr Edwards yn mynegi ei bryder am effaith unrhyw doriadau ar Gymru. Ac mae yna rybudd chwyrn ganddo y byddai'r "effaith wleidyddol ar Gymru, fel yn yr Alban, yn niweidiol iawn".
Does dim ymateb i'r llythyr yma yn yr archif ac mae Mr Edwards - sef Arglwydd Crughywel heddiw - yn dweud nad yw'n cofio'r digwyddiad.
Pryder llywodraeth y dydd
Ond eto, yn debyg iawn i heddiw, mae dogfennau eraill yn dangos pryder y llywodraeth bod yr Alban a Gogledd Iwerddon yn derbyn mwy na'u cyfran deg o arian cyhoeddus drwy'r fformiwla Barnett - y dull sy'n cael ei ddefnyddio i benderfynu faint o arian cyhoeddus mae gwledydd y Deyrnas Unedig yn ei gael.
Mae'r papurau yn dangos bod David Willetts, aelod o fwrdd polisi Margaret Thatcher, wedi cyhuddo'r Alban a Gogledd Iwerddon o fod a'u "trwynau yng nghafn gwariant cyhoeddus".
"Yr her yw canfod ffordd sy'n dderbyniol yn wleidyddol o'u rhoi nhw ar yr un diet â'r Saeson," meddai'r archif.
Fformiwla Barnett
Roedd y Trysorlys a swyddogion Downing Street yn 1985 yn ystyried torri yn sylweddol ar yr arian i'r Alban a Gogledd Iwerddon drwy rewi'r fformiwla Barnett.
Er bod y llywodraeth yn glir nad oedd Cymru yn cael gormod, roedd llywodraeth Thatcher yn ymwybodol iawn nad oedd y fformiwla yn cynnig ateb parhaol i gwestiwn sut mae ariannu gwledydd y DU.
"Doedd hyd yn oed ein rhagflaenwyr yn ei weld fel dim byd mwy na threfniant dros dro ar y ffordd i ddatganoli gwleidyddol, yn sicr ddim mor barhaol ac y mae nawr" meddai'r dogfennau.
Ond fel heddiw roedd pryderon am yr ymateb gwleidyddol yn yr Alban yn eu hatal rhag ei newid.
Trideg mlynedd yn ddiweddarach mae'r dadlau'n parhau, ac mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod ar ei cholled yn ariannol o'r herwydd.
Ond yn dilyn refferendwm yr Alban mae'r prif bleidiau yn San Steffan wedi addo y byddan nhw'n cadw'r fformiwla ariannol am y dyfodol agos.