Dydd Gwener Gwyllt: Gofal piau hi

  • Cyhoeddwyd
Tafarn

Mae heddluoedd ar draws Cymru yn disgwyl nos Wener hynod brysur wrth i filoedd baratoi i ddathlu'r Nadolig.

Mae'r dydd Gwener olaf cyn y Nadolig, sy'n cael ei adnabod fel Dydd Gwener Du neu Dydd Gwener Gwyllt, yn un o nosweithiau prysuraf y flwyddyn i dafarndai a chlybiau nos ar draws y wlad.

Ond mae heddluoedd am i bobl fod yn ddiogel ac yfed yn gymhedrol, i sicrhau nad ydynt yn gorffen eu noson mewn cell neu'r ysbyty.

Bydd swyddogion ychwanegol ar ddyletswydd ar draws y wlad, yn ogystal â pharafeddygon ychwanegol yng nghanol trefi.

'Tawelu meddyliau'

Yn y gogledd, bydd swyddogion Heddlu ychwanegol ar ddyletswydd ar draws y rhanbarth, yn ogystal â swyddogion gwirfoddol er mwyn rhoi "presenoldeb gweladwy ar gyfer y rhai sy'n dathlu ac yn tawelu meddyliau'r cyhoedd".

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Neil Anderson o Heddlu'r Gogledd bod "pobl yn dueddol o yfed mwy" ar yr adeg yma o'r flwyddyn, ond y byddai "swyddogion ychwanegol yn gweithio ar draws yr ardal dros y cyfnod hwn ac rydym yn cydweithio â phartneriaid sy'n cynnwys y tafarndai a'r awdurdodau lleol".

"Rydym eisiau i bobl ystyried beth fydd pris alcohol iddyn nhw eu hunain, eu teuluoedd, y gwasanaethau cyhoeddus a'r gymuned.

"Mwynhewch ond gwnewch hynny mewn modd diogel a chyfrifol."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae ymgyrch arbennig wedi ei ddechrau yn Wrecsam i annog pobl i fwynhau noson ddiogel yn y dref.

Bwriad ymgyrch Wrecsam Diogel yw annog yfed yn ddiogel a chyfrifol, a lleihau troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol dros gyfnod y Nadolig.

Canllawiau

Yn y de mae canolfan gymorth arbennig ar agor yn Abertawe, ac mae'r heddlu wedi cyhoeddi canllawiau i bobl sy'n mynd allan i ddathlu. Maen nhw'n cynnwys:

  • Cadw rheolaeth o faint rydych chi'n yfed, ac osgoi yfed mewn rowndiau;
  • Bwyta cyn mynd allan os am yfed alcohol;
  • Sicrhau bod gyda chi ffordd adre wedi ei drefnu cyn mynd allan;
  • Aros gyda grŵp o ffrindiau.

Ymgyrch Santa yw cynnig Heddlu Dyfed Powys ar gadw trigolion yn ddiogel ar nosweithiau allan dros yr Ŵyl.

Mae swyddogion yn argymell cynllunio'r daith adref o flaen llaw a sicrhau bod digon o fatri yn eich ffôn symudol.

Yn ogystal, mae Heddlu Dyfed Powys am i bobl bwyllo wrth yfed, a "cherdded i ffwrdd o ryfelgarwch neu drais - peidiwch â rhoi eich hun mewn perygl o ddioddef anaf neu arest".