Cartref i ddyn oedd yn byw mewn ogof
- Cyhoeddwyd

Mae dyn digartref oedd yn byw mewn ogof yn edrych dros fan gwyliau poblogaidd wedi dod o hyd i lety gyda help grŵp lleol sy'n dibynnu ar roddion.
Roedd Ray Burton, 52, yn ofni y byddai'n rhaid iddo dreulio'r Nadolig mewn pabell mewn ogof ar Y Gogarth, Llandudno.
Ond mae sylfaenydd Hope Restored, sy'n cefnogi pobl leol digartref, yn dweud ei bod wedi dod o hyd i fflat iddo.
Roedd hanes Mr Burton wedi dod i sylw'r cyhoedd wedi iddo ymddangos yn y Daily Post, ac arweiniodd hyn i bobl ddod ymlaen gyda chynigion i'w helpu.
Dywedodd Brenda Hewitt, sy'n rhedeg Hope Restored, fod gan y dref oddeutu dwsin o bobl ddigartref sydd yn aml yn cysgu yn yr ogofeydd.
Mae Ms Hewitt, sy'n gweithio o ddydd i ddydd fel gofalwr capel, yn croesawu defnyddwyr y gwasanaeth i Gapel Gloddaeth Llandudno am ginio Nadolig ddydd Gwener.
O ddrwg i waeth
Dywedodd Mr Burton wrth y papur ei fod wedi colli fflat oedd wedi cael ei ffeindio iddo gan Hope Restored yn gynharach yn y flwyddyn yn dilyn problemau wedi'u hachosi gan bobl eraill oedd yn defnyddio'r fflat.
Aeth ei fywyd o ddrwg i waeth pan losgwyd ei eiddo yn yr ogof rhyw fis yn ôl.
"Rwy'n mynd yn rhy hen i fyw ar y stryd," ddywedodd Mr Burton wrth y papur, gan egluro fod amodau'r ogof yn oer, gwlyb a budr.
Wedi'r tân, rhoddodd Ms Hewitt babell ac eitemau eraill iddo a dechreuodd chwilio am le newydd i aros ar ei gyfer.
Dywedodd hi ei bod wedi siarad â Mr Burton ddydd Mercher ble y cafodd hi roi newyddion da iddo.
"Rwyf wedi llwyddo i ddod o hyd i rywle iddo," dywedodd Ms Hewitt gan egluro fod y grŵp, sy'n cael ei ariannu gan roddion, yn cyfrannu at gost y fflat.
"Rwyf wedi dweud wrtho mai dyma ei gyfle olaf."