Cynnal profion am Ebola
- Cyhoeddwyd

Dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru fod profion wedi eu cynnal ar achos posib o Ebola ar unigolyn o Ysbyty Treforys sydd a "record o deithio i orllewin Affrica.
Ond ychwanegodd Dr Marion Lyons, Cyfarwyddwr Diogelwch Iechyd gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru fod Ebola yn cael ei ystyried yn annhebygol ond fod profion yn cael eu cynnal rhag ofn.
"Rydym yn hyderus fod y camau priodol wedi eu cymryd i sicrhau nad oes yna unrhyw risg i iechyd cyhoeddus.
"Mae'n bwysig cofio nad oes yna unrhyw achos o Ebola wedi cael diagnosis yn y DU a does ond modd trosglwyddo'r haint wrth ddod i gyffyrddiad uniongyrchol a pherson sydd wedi ei heintio.
"Rydym wedi rhoi cyngor i weithwyr ar y rheng flaen sy'n ymdrin â chleifion i fod yn effro i arwyddion a symptomau Ebola pobl sy'n dychwelyd o ardaloedd sydd wedi eu heintio.
"Yn dilyn canllawiau o'r fath byddwn yn disgwyl gweld cynnydd yn nifer y profion byddwn yn eu cynnal.
"Pe bai yna achos positif yng Nghymru fe fyddwn yn rhoi gwybod i'r cyhoedd."