Dyn wedi marw ar ôl cael ei achub o afon yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r De wedi cadarnhau bod dyn gafodd ei achub o Afon Taf yng Nghaerdydd ar Ragfyr 16 wedi marw.
Cafodd y dyn, 51 oed ac o'r ardal leol, ei achub o'r afon gan y gwasanaethau brys nos Fawrth, a'i gludo i Ysbyty'r Brifysgol.
Dywedodd yr heddlu ei fod wedi marw yn fuan wedyn, ac mae ei deulu wedi cael gwybod.
Nid yw'r farwolaeth yn cael ei drin fel un amheus.
Straeon perthnasol
- 17 Rhagfyr 2014