BBC Cymru Fyw

Dynion yn y llys am droseddau terfysgaeth

Published
image captionMae'r ddau wedi eu cyhuddo o gynorthwyo Aseel Muthana, sydd wedi mynd i Syria i ymladd
Mae dau ddyn sydd wedi eu cyhuddo o gynorthwyo bachgen 17 oed o Gaerdydd i fynd i ymladd yn Syria wedi ymddangos mewn llys.
Fe wnaeth Kristen Arne Brekke, 19 ac o Grangetown yng Nghaerdydd, a Forhad Rahman, 20 o Cirencester yn Sir Gaerloyw, ymddangos yn yr Old Bailey yn Llundain.
Mae'n nhw'n wynebu cyhuddiadau o ymddygiad fyddai'n cynorthwyo i baratoi gweithredoedd o derfysgaeth.
Yr honiad yw eu bod wedi cynorthwyo Aseel Muthana cyn iddo adael Caerdydd ym mis Chwefror 2014.
Cafodd y ddau eu cadw yn y ddalfa.
Byddan nhw'n ymddangos yn y llys eto ym mis Ebrill, ac mae disgwyl i'r achos llawn ddechrau ym mis Mehefin, 2015.