Cynllun uno cynghorau 'yn nonsens', medd arbenigwr
- Cyhoeddwyd

Mae cynlluniau i uno cynghorau yng Nghymru yn "nonsens" a dydyn nhw ddim yn mynd yn ddigon pell er mwyn arbed arian yn ôl un arbenigwr ar lywodraeth leol.
Ym mis Ionawr fe wnaeth adroddiad Comisiwn Williams alw am leihau nifer y cynghorau yng Nghymru o 22 i 12 neu 10.
Ond yn ôl yr Athro Malcolme Prowle, fu'n gweithio mewn llywodraeth leol yng Nghymru yn ystod y cyfnod ad-drefnu yn 1974 a 1996, fe fyddai'r cynghorau newydd yn dal yn rhy fach.
Dywedodd fod uno o fewn y sector breifat yn digwydd yn gynt, yn fwy creulon ac yn arbed mwy o arian.
Mae'r athro Prowle, sy'n darlithio mewn astudiaethau perfformiad busnes ym mhrifysgol Nottingham, hefyd yn amheus am y tri chynllun uno gwirfoddol sydd wedi eu cynnig gan y cynghorau hyd yn hyn.
Dywedodd wrth raglen Sunday Supplement BBC Radio Wales y byddai'r uno rhwng Torfaen a Blaenau Gwent dal yn golygu awdurdod fyddai'n rhy fach i fod yn effeithiol.
Dywedodd y byddai'n gam fwy synhwyrol i uno Bro Morgannwg gyda Chaerdydd,
Mae Bro Morgannwg wedi dweud y byddai'n well ganddynt uno a chyngor Pen-y-bont ar Ogwr.
Dywed yr Athro y byddai uno cynghorau Dinbych a Chonwy yn creu awdurdod o faint derbyniol, gyda phoblogaeth o 209,000.
Fe gafodd uno o'r fath ei argymell gan Gomisiwn Williams.
Mae Leighton Andrews, gweinidog gwasanaethau cyhoeddus Cymru, wedi dweud ei fod yn siomedig gydag ymateb yr awdurdodau lleol gan awgrymu y gallai'r targed gwreiddiol o leihau nifer y cynghorau i 12 neu 10 gael ei leihau hyd yn oed ymhellach - i chwech.
Mae Mr Andrews wedi addo y bydd yn ymateb yn y flwyddyn newydd i gynigion yr awdurdodau lleol ynglŷn â'r uno gwirfoddol y roedden nhw'n ei ffafrio.