Gleision 21-9 Scarlets

  • Cyhoeddwyd
Josh NavidiFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Josh Navidi

Fe wnaeth dau gais gan Josh Navidi helpu'r Gleision sicrhau buddugoliaeth yn erbyn y Scarlets ym Mharc yr Arfau.

Daeth dau gais yr wythwr yn yr hanner cyntaf, gyda'r Gleision yn rheoli'r gem.

Roedd yna dair cic gosb a throsgais i Gareth Anscombe, gyda Rhys Priestland yn sgorio chwe phwynt i'r Scarlets cyn yr egwyl.

Methodd y Scarlets a manteisio ar sawl cyfle i groesi'r llinell gais wedi'r egwyl, a chic gosb Priestland oedd unig sgôr yr ail hanner.

Roedd y Scarlets heb y cefnwr Liam Williams oherwydd anaf, a bu'n rhaid i Jake Ball a Aaron Shingler dynnu'n ôl cyn y gem oherwydd salwch.