Cyngor Ceredigion yn barod am dywydd garw
- Cyhoeddwyd

Bu difrod i brom Aberystwyth ddechrau 2014
Mae trigolion Ceredigion wedi cael gwybod fod y cyngor yn ymbaratoi am dywydd garw dros y gaeaf.
Yn ôl swyddogion y cyngor, mae 'na gynllun yn ei le i wynebu llifogydd tebyg i'r rhai a welwyd ddechrau'r flwyddyn.
Yn ogystal ag adolygu'r cynllun, mae'r cyngor hefyd yn trafod yn gyson gyda'r gwasanaethau brys a Chyfoeth Naturiol Cymru.
Mae gwefan yr awdurdod hefyd yn cael ei ailwampio er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddara' i drigolion.