BBC Cymru Fyw

Hull 0-1 Abertawe

Published
image copyrightPA
Roedd gôl Ki Sung-Yueng yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth i Abertawe oddi cartre' yn erbyn Hull bnawn Sadwrn.
Fe fownsiodd ergyd Jonjo Shelvey oddi ar arddwn Sung-Yueng wedi chwarter awr o chwarae.
Fe wnaeth Hull fygwth unioni'r sgôr, ond taro'r traws wnaethon nhw.
Fe darodd yr Elyrch y postyn ddwywaith, hefyd.
Mae'r fuddugoliaeth yn golygu bod Abertawe yn dringo i'r wythfed safle yn Uwchgynghrair Lloegr.