BBC Cymru Fyw

Luton 3-0 Casnewydd

Published
Luton 3-0 Casnewydd
Fe ddaeth rhediad Casnewydd o naw buddugoliaeth o'r bron i ben yn Luton heddiw, wrth iddyn nhw gael eu trechu 3-0.
Luke Wilkinson roddodd Luton ar y blaen ar ddechrau'r gêm.
Fe ddyblodd Luke Rooney fantais y tîm cartref gan fanteisio ar gamgymeriad gan gôl-geidwad Casnewydd, Jamie Stephens.
Jake Howells sgoriodd drydedd gôl Luton ym munudau ola'r gêm.