Canolfan gelfyddydau £4m i Grangetown?
- Published
Mae cytundeb wedi ei arwyddo i barhau â chynlluniau i adeiladu canolfan gelfyddydau a busnes mewn sied tramiau Fictorianaidd yn Grangetown, Caerdydd.
Mae 'na oriel, sinema 40-sedd, ardal berfformio a chaffi a bar yn rhan o'r cynllun, fydd yn cael ei ariannu drwy elw y gofodau gweithio a byw o fewn y prosiect.
Mae'r adeilad Gradd II, oedd yn cael ei ddefnyddio gan gyngor Caerdydd fel garej, ar werth ers dwy flynedd.
Mae cynghorwyr yn gobeithio creu 150 o swyddi ac yn gweld cyfle i gyd-weithio â'r prosiect i ailwampio canol y ddinas.
Roedd ardal gymunedol a chelfyddydol yn rhan annatod o'r cytundeb, ac fe arwyddodd TS Developments o Benarth brydles ddydd Gwener.
Mae cynlluniau ar droed ac mae gobaith y bydd yr adeilad ar agor ar ei newydd wedd erbyn diwedd 2015.