Hartlepool ddim am arwyddo Ched Evans
- Cyhoeddwyd
Fydd Hartlepool ddim yn arwyddo Ched Evans.
Fe gafodd Evans, 25, ei ryddhau o'r carchar ym mis Hydref, wedi iddo dreulio hanner dedfryd o bum mlynedd dan glo am dreisio menyw mewn gwesty yn 2011.
Bnawn Sadwrn, fe gyhoeddodd rheolwr newydd Hartlepool, Ronnie Moore, fod ganddo ddiddordeb yn y Cymro.
Fe gymordd Moore yr awenau yn Hartlepool yr wythnos hon.
Wedi gêm y clwb yn erbyn Rhydychen, fe ddywedodd fod arwyddo Evans "yn bosiblrwydd".
"Petai o'n gallu digwydd, fe fyddwn i eisiau iddo fo ddigwydd. Mae o'n gallu sgorio goliau; mae o wedi talu ei ddyled ac mae'r hogyn eisiau chwarae pêl-droed."
Er hyn, mewn datganiad bnawn Sul, fe ddywedodd y clwb na fyddai'n ymuno â'r garfan, er ei "allu amlwg fel pêl-droediwr".
Fis diwethaf, fe roddodd cyn-glwb Evans, Sheffield United, y gorau i adael iddo hyfforddi â'r garfan wedi gwrthwynebiad chwyrn.
Mae Ched Evans - sydd wedi chwarae 13 o weithiau dros Gymru - yn parhau i fynnu ei fod yn ddieuog, ac wedi gofyn i'r Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol i edrych eto ar ei achos.
Straeon perthnasol
- 20 Rhagfyr 2014
- 20 Tachwedd 2014
- 16 Tachwedd 2014
- 11 Tachwedd 2014
- 13 Awst 2014