Heddlu'n chwilio am ddynes a'i babi
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu'n chwilio am ddynes a babi wedi i aelodau o'r cyhoedd godi pryderon ynglŷn â'u diogelwch.
Yn ôl adroddiadau roedd y ddynes ifanc yn gwisgo gŵn tŷ (dressing gown), socasau tri chwarter a phâr o esgidiau chwaraeon. Roedd ei gwallt melyn wedi'i glymu'n ôl o'i hwyneb.
Cafodd y ddynes a'r babi eu gweld diwethaf ychydig wedi 8:30yh, tu allan i archfarchnad y Co-operative, Ffordd Bracla, Pen-y-bont ar Ogwr.
Dywedodd yr Arolygydd Gary Smart, o Heddlu De Cymru: "Mae'r tywydd yn oer ac yn wlyb ac o'r wybodaeth rydym ni wedi'i dderbyn, nid ydym yn credu bod y fam na'i babi yn gwisgo dillad addas ar gyfer y tywydd."
Ychwanegodd, mai er gwaethaf y ffaith nad oes adroddiad person ar goll wedi'i gofnodi, mae Heddlu De Cymru eisiau cael hyd i'r ddynes a'i babi er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel.