Dyn ar gyhuddiad o lofruddio cymydog
- Cyhoeddwyd

Cafodd yr heddlu eu galw i'r tai, sydd dan ofal warden, ym mis Hydref
Mae dyn 73 oed wedi'i gadw yn y ddalfa ar ôl bod yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio cymydog ar stad o dai ym Mro Morgannwg ym mis Hydref.
Dywedodd y barnwr yn Llys y Goron Caerdydd y gallai'r achos yn erbyn Alan Rogers ddechrau ym mis Ebrill.
Yr honiad ydy bod Mr Rogers wedi lladd un o'i gymdogion gyda morthwyl ar stad dai Fairoaks, Dinas Powys.
Bu farw Fred Hatch, 76, yn Ysbyty'r Brifysgol yng Nghaerdydd, ym mis Hydref.