Edrych 'nôl ar y 'stormydd gwaetha' mewn 20 mlynedd'
- Cyhoeddwyd

Atgof llawer o eleni fydd stormydd garw misoedd Rhagfyr, Ionawr a Chwefror diwethaf.
Cafodd rhannau helaeth o arfordir Cymru, o Benfro i sir Ddinbych, eu taro, gan achosi miliynau o bunnoedd o ddifrod.
Mae peth gwaith atgyweirio yn dal i ddigwydd yn Neganwy er enghraifft, ac mae'n dasg gyson i gadw'r elfennau rhag darnio Llwybr Arfordir Cymru. Cafodd milltiroedd ohono ei ddinistrio mewn gwahanol fannau.
Y promenâd yn Aberystwyth gafodd y sylw mwyaf efallai, gyda lluniau trawiadol ar-lein, ar y teledu ac yn y papurau newydd o donnau yn dyrnu'r dref.
Yn ôl y gweinidog amgylchedd ar y pryd Alun Davies, roedd wedi ei "syfrdanu" gan y difrod. Mi fu'n flwyddyn gofiadwy iddo - chwe mis yn ddiweddarach cafodd ei ddiswyddo o'r llywodraeth ar ôl gofyn i weision sifil ganfod gwybodaeth breifat am ei wrthwynebwyr gwleidyddol yn y Cynulliad.
Y cyfuniad o wyntoedd cryfion o dde-orllewin môr Iwerydd, yn ogystal â llanw uchel, achosodd y problemau. Gyda'r tywydd mor eithafol yn y cyfnod, roedd rhai yn cysylltu'r stormydd gyda newidiadau i'r hinsawdd.
Newid hinsawdd
Fis Chwefror barn llefarydd Plaid Cymru ar yr amgylchedd, Llyr Gruffydd, oedd y byddai "newid hinsawdd yn arwain at fwy o lifogydd mewn amgylchiadau tebyg yn y dyfodol, ac mae'n rhaid cryfhau amddiffynfeydd yng Nghymru."
Yn ôl yr Athro Julia Slingo, prif wyddonydd y Swyddfa Dywydd, "fe allai'r" tywydd stormus a'r cawodydd trymion o law fod yn elfennau o newid hinsawdd.
Ond o graffu ar adroddiad Y Swyddfa Dywydd ei hun fis Chwefror, "does dim ateb pendant mai newid hinsawdd gyfrannodd at y tywydd stormus diweddar" hyd yma medden nhw.
Doedd dim modd dadlau am y costau atgyweirio.
Cost y difrod
Fe ddarlledodd BBC Cymru cyn cyhoeddi adroddiad cyntaf Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar ddiwedd Ionawr, hyd a lled beth roedd yr awdurdodau lleol yn ne a gogledd orllewin Cymru, yn amcangyfrif fyddai'r ergyd ariannol.
- Cyngor Conwy oedd gyda'r amcangyfrif mwyaf costus, sef oddeutu £5 miliwn;
- £1.5 miliwn fyddai'r costau yng Ngheredigion;
- £800,000 yng Ngwynedd;
- £500,000 oedd amcangyfrif Sir Benfro;
- £100,000 oedd y swm ar Ynys Môn.
Caewyd y lein rheilffordd rhwng Pwllheli ac Aberystwyth hefyd. Yn ôl cwmni Railtrack, roedd difrod gwerth £10 miliwn i'w hasedau ar hyd yr arfordir yng Nghymru. Gwariwyd bron i £8 miliwn dim ond ar lein y Cambrian rhwng Pwllheli a Machynlleth.
Yn ôl CNC, stormydd y gaeaf diwethaf oedd y rhai mwyaf difrifol i daro Cymru yn yr 20 mlynedd diwethaf.
Yn Y Rhyl yr oedd y rhan fwyaf o'r 155 o gartrefi a ddioddefodd lifogydd. Er yr £8.1 o ddifrod, yn ôl adroddiad CNC, llai na 1% o dai ac eiddo a oedd dan fygythiad oedd wedi'u taro mewn gwirionedd.
Bron i flwyddyn yn ddiweddarach mae costau gwario'r cynghorau yn dangos bod y gwariant wedi bod yn uwch mewn tri o'r awdurdodau, tra bod gwaith Conwy yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Rhagfyr 2014
- Cyhoeddwyd21 Awst 2014
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2014
- Cyhoeddwyd30 Ebrill 2014
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2014
- Cyhoeddwyd14 Chwefror 2014
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2014
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2014