Y dyn sy'n gwrando ar wybodaeth o bedwar ban byd

  • Cyhoeddwyd
Martin Morgan
Disgrifiad o’r llun,
Martin Morgan yw'r Cymro yn y ganolfan glustfeinio yn Caversham

Ymysg rhai o straeon rhyngwladol mawr y flwyddyn, mae'r gwrthdaro yn Wcráin a'r trafferthion yn Syria a rhannau eraill o'r Dwyrain Canol wedi bod yn cael sylw mawr.

Un o'r lleisiau sydd wedi bod yn sylwebu'n rheolaidd ar faterion rhyngwladol ar raglenni BBC Cymru yw Martin Morgan, sy'n gweithio yng nghanolfan glustfeinio'r BBC yn Caversham.

Gwaith Martin yw gwrando ar yr holl wybodaeth sy'n cael ei darlledu mewn gwahanol ffurfiau o bedwar ban byd.

Ac mae'n dweud bod y gwaith yn hollbwysig wrth geisio "taflu goleuni" ar ddigwyddiadau mawr y byd.

'Tonnau o wybodaeth'

Mae'r Cymro o Ddolgellau wedi bod yn gweithio yn y ganolfan, sydd wedi'i lleoli yng nghefn gwlad Berkshire, ers 20 mlynedd bellach.

Ar ôl dechrau fel cyfieithydd yn yr adran Rwseg ac Wcraineg, mae bellach yn gweithio yn paratoi newyddion o wledydd tramor i'r BBC gan ganolbwyntio ar sut mae'r cyfryngau yn trafod digwyddiadau gwahanol.

Disgrifiad o’r llun,
Mae'r gweithwyr yn Caversham yn gwrando ar newyddion o bob rhan o'r byd, i geisio deall y straeon mawr sy'n torri.

Mae Martin yn un o ryw 370 o staff sydd gan y gwasanaeth clustfeinio - yn gweithio nid yn unig yn Caversham, ond hefyd mewn swyddfeydd yn Rwsia, Yr Aifft ac India.

Cafodd y ganolfan yn Berkshire ei sefydlu ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd, er mwyn gwrando ar ddarllediadau radio o'r Almaen a'r Eidal.

Mae Martin yn dweud bod ystod y wybodaeth sy'n cyrraedd y ganolfan yn gallu bod yn syfrdanol, a'i fod yn "hawdd iawn i foddi o dan donnau o wybodaeth sy'n dod i mewn".

Ond er hynny, "da ni'n gweithio'n gyflym iawn i geisio cael gafael ar hyn, ac i greu rhyw fath o synnwyr allan o'r môr o wybodaeth".

Wcráin, Syria ac Iran

Cartre'r gwasanaeth yw plasdy hynafol Caversham Park - mae 'na dŷ wedi bod ar y safle ers y cyfnod Normanaidd.

Mae'r adeilad presennol wedi bod yno ers 1850 - cafodd ei ailadeiladu ar ôl tân gan y perchennog ar y pryd - William Crawshay - un o feistri haearn Merthyr.

Disgrifiad o’r llun,
Caversham Park yw'r tŷ hynafol lle mae'r gwaith clustfeinio yn digwydd

Am flynyddoedd bu staff y ganolfan glustfeinio yn cadw llygaid ar ddarllediadau radio a theledu trwy loeren, ond yn fwy diweddar daw tipyn o wybodaeth drwy'r we.

Mae prif sylw'r tîm yn Caversham eleni wedi bod ar y gwrthdaro yn Wcráin a'r trafferthion parhaus yn y Dwyrain Canol - gyda'r rhyfela yn Syria a'r pryderon am y sefyllfa yn Iran.

Gyda'r holl sylw gafodd ei roi i'r digwyddiadau yma ar draws y byd, mae Martin yn teimlo bod y gwaith sy'n digwydd yn Caversham wedi bod yn hollbwysig.

"Pan mae pethau'n dawel, mae'n anodd esbonio i bobl pam mae hi mor bwysig i gadw golwg ar y cyfryngau tramor, ond pan mae rhyw fath o argyfwng yn dechrau yn y Dwyrain Canol neu Wcráin, 'da ni'n ceisio rhagweld hyn a thaflu goleuni ar beth sy'n digwydd ac mae'n gwaith ni, dwi'n meddwl, yn sylfaenol iawn i'r BBC yn enwedig a hefyd i gyfryngau eraill."