Achosion o adael anifeiliaid yn 'bryder' yn ôl yr RSPCA

  • Cyhoeddwyd
Cathod bachFfynhonnell y llun, RSPCA
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd y cathod bach yma eu gadael yng Nghaerdydd

Mae nifer yr anifeiliaid anwes sy'n cael eu gadael yn rhydd yng Nghymru yn achos pryder, yn ôl yr RSPCA.

Er bod y ffigyrau ar hyn o bryd yn dangos gostyngiad, mae pennaeth yr elusen yng Nghymru yn dweud bod y sefyllfa bob tro'n gwaethygu dros y Nadolig.

Cafodd dros 761 o anifeiliaid eu hachub gan yr elusen yng Nghymru hyd at 16 Rhagfyr, o'i gymharu â 903 drwy gydol 2013.

Cathod a chŵn gafodd eu hachub fwyaf aml gan yr RSPCA, ond maen nhw'n dweud bod anifeiliaid mwy anghyffredin hefyd wedi dioddef, gan gynnwys crwbanod.

Mae'r elusen yn rhybuddio bod rhai anifeiliaid yn cael eu trin "fel sbwriel".

'Ddim yn poeni'

Yng Nghaerdydd y cafodd y nifer fwyaf o anifeiliaid eu gadael gan eu perchnogion yn 2013 a 2014, tra bod y nifer isaf yng Ngheredigion.

Mae uwch-arolygydd yr elusen yng Nghymru, Martyn Hubbard, wedi dweud bod y ffigyrau yn bryderus, a bod y broblem yn debygol o waethygu dros y Nadolig.

Ffynhonnell y llun, RSPCA
Disgrifiad o’r llun,
Er mai cathod a chŵn oedd yr anifeiliaid mwyaf cyffredin i gael eu gadael, cafodd y crwbanod yma eu darganfod yn Rhondda Cynon Taf

"Y ffaith yw hyd yn oed mewn cenedl o bobl sydd wrth eu bodd gydag anifeiliaid, mae miloedd o bobl sydd ddim yn poeni am eu hanifeiliaid anwes o gwbl," meddai.

"Yn wir, mae rhai yn eu trin fel sbwriel.

"Yr hyn sy'n waeth yw bod gwyliau fel y Nadolig yn gallu arwain at gynnydd yn yr achosion wrth i rai ddewis cael gwared ar eu hanifeiliaid yn hytrach na thalu i rywun edrych ar eu holau tra eu bod nhw ar eu gwyliau."

Argyfwng

Ychwanegodd: "Mewn achosion eraill, fe all arian gael ei wario ar wyliau neu anrhegion yn hytrach na gofal milfeddyg i anifeiliaid sy'n sâl neu'n ifanc iawn, felly maen nhw'n cael eu gadael yn rhydd."

"Mae'n ddigon anodd pan rydyn ni'n darganfod bocs o gathod bach wrth ein drws gyda nodyn, ond nawr mae pobl yn fwriadol yn gadael eu hanifeiliaid mewn llefydd dirgel, fel biniau, sgipiau neu ar dir gwastraff - ac yn gadael nhw i farw."

Yn gynharach eleni, dywedodd yr RSPCA bod achosion o geffylau yn cael eu gadael yn rhydd yn argyfwng, ar ôl i'r nifer gynyddu yn fawr.

Cafodd 271 o geffylau eu hachub mewn pum mlynedd, ond mae'r elusen yn dweud eu bod yn llwyddiannus iawn wrth ddwyn achosion.

Yng Nghymru'r llynedd roedd 297 o achosion llwyddiannus, cynnydd o 20%.