Ewyllys da ar strydoedd Caerdydd

Bwyd Nid Bomiau Image copyright Bwyd Nid Bomiau
Image caption Mae'r grŵp yn rhannu bwyd am ddim yng nghanol Caerdydd pob dydd Gwener - gan gynnwys Gŵyl San Steffan

Diwrnod distaw o fwyta sbarion y cinio Nadolig fydd Gŵyl San Steffan i nifer o bobl. Ond mae Efa Thomas yn un o'r gwirfoddolwyr fydd yn helpu i rannu bwyd i bobl ar strydoedd Caerdydd. Mae hi wedi bod yn sôn mwy am waith ymgyrch 'Bwyd Nid Bomiau' wrth BBC Cymru Fyw:

Yn draddodiadol dathlu genedigaeth Iesu oedd ystyr y Nadolig, wrth gwrs, ond i lawer ohonom erbyn hyn mae pwrpas yr Ŵyl wedi newid. Amser i fwynhau, gôr‪-‬fwyta a rhoi anrhegion diangen yw'r Nadolig i nifer yn 2014.

Ond mae eleni wedi bod yn flwyddyn galed, gyda diffyg arian, dim cartref a dim bwyd yn realiti i nifer o bobl, teuluoedd a phlant y Dolig yma - ac mae nifer y bobl sy'n cael eu gorfodi i ddibynnu ar fanciau bwyd, a dosbarthwyr bwyd am ddim yn cynyddu.

Rydw i yn rhan o'r grŵp Bwyd Nid Bomiau (BNB) Caerdydd, sydd wedi bod yn rhannu bwyd am ddim yng nghanol y brifddinas bob dydd Gwener ers Tachwedd 2012. Dyma ein ffordd ni o brotestio yn erbyn gwariant ar arfau a rhyfel yn hytrach nag ar fwydo pobol.

Mae'r ymgyrch hefyd yn brotest yn erbyn yr holl wastraffu bwyd sy'n digwydd ym Mhrydain. Mae ein grŵp yn dibynnu'n gyfan gwbl ar gyfraniadau, yn aml gan fusnesau lleol. Y math o fwydydd fyddai'n cael eu taflu fel arall am eu bod yn ddiwrnod oed neu'r 'siâp anghywir'. Yn ystod misoedd y Gaeaf rydym hefyd yn rhoi dillad cynnes - menig, sgarffiau, hetiau ac ati.

Image copyright Bwyd Nid Bomiau
Image caption Mae'r grŵp yn defnyddio llysiau fyddai ddim yn gallu cael eu gwerthu mewn siop oherwydd eu golwg

Cefndir

‏Mudiad rhyngwladol o grwpiau annibynnol ydi BNB. Fe'i cychwynnwyd gan ymgyrchwyr gwrth-niwclear yn yr UDA yn ystod yr 1980au a bellach mae dros 400 o grwpiau gweithredol ar draws y byd. Gall unrhyw un gychwyn grŵp Bwyd Nid Bomiau, cyn belled â'u bod yn sicrhau fod y bwyd yn llysieuol ac am ddim; fod pob grŵp yn annibynnol ac yn defnyddio consensws i wneud penderfyniadau; a bod y grŵp yn defnyddio dulliau di-drais.

Mae BNB Caerdydd yn grŵp bychan o tua 12 o wirfoddolwyr, a 'da ni o hyd yn chwilio am aelodau newydd. Dwi'n dewis helpu gan fy mod i'n meddwl ei bod hi'n bwysig dosbarthu bwyd, a dwi'n mwynhau dod â phobl at ei gilydd ac i rannu'r neges yn erbyn rhyfel a thlodi.

Bob wythnos rydym yn gweini pryd o fwyd gwahanol - yn gawl, byrgyrs llysieuol, pasta, salad neu gyri, er enghraifft. Dwi wrth fy modd yn gweld yr holl bobol wahanol sy'n dod at ei gilydd. Ymysg y bobol rydym ni'n eu bwydo mae rhai digartref, pobl ar eu hawr ginio, ymgyrchwyr a'r henoed.

Image copyright Bwyd Nid Bomiau
Image caption Pob wythnos mae pob math o wahanol bobl mewn pob math o sefyllfaoedd yn dod at ei gilydd i gael pryd o fwyd am ddim

Problemau cymdeithasol

Mae'r sgyrsiau bob tro yn ddifyr am bob math o bynciau - o faterion gwleidyddol rhyngwladol, i broblemau bywyd personol. "Undeb nid elusen" yw un o ddywediadau BNB, ac mae croeso i unrhyw un fwyta, coginio neu weini gyda'r grŵp. Nid elusen ydym ni, ond pobol gyfartal yn hyrwyddo newid cymdeithasol trwy gynnig cyfle i unigolion gwrdd â'i gilydd.

‏Wrth weithio ar y strydoedd mae'n amlwg fod cynnydd yn y nifer o bobl sy'n dibynnu ar wasanaethau dosbarthu bwyd fel ni, er mwyn iddyn nhw ei gwneud hi trwy'r wythnos. Mae problemau cymdeithasol hefyd yn dod i'r amlwg wrth i ni glywed storïau gan bobl anabl sy'n colli eu budd-daliadau, neu ferched digartref sydd wedi dianc rhag trais yn eu cartrefi.

Roedd Iesu eisiau i ni gyd rannu, a Siôn Corn yn gweld pob plentyn yn gyfartal. Ond nid dyna'r byd 'da ni yn byw ynddo yn anffodus. Os oes bwyd dros ben, neu anrhegion 'da chi ddim eisiau'r Nadolig yma, gwnewch yn siŵr eu bod nhw ddim yn mynd yn wastraff - rhannwch nhw gyda rhywun sydd mewn angen.

Image copyright Bwyd Nid Bomiau
Image caption Mae nifer o bobl ar strydoedd Caerdydd sy'n chwilio am bryd cynnes ar ddiwrnod oer