Gŵyl y Baban: Profiad teulu o Nadolig ar ôl mabwysiadu
- Cyhoeddwyd

Mae 2014 wedi gweld nifer o newidiadau i'r system fabwysiadu yng Nghymru, gyda gwasanaeth cenedlaethol newydd wedi ei lansio fis diwetha'. Beth am brofiad teuluoedd yng Nghymru sydd wedi mabwysiadu, a sut maen nhw'n dathlu'r Dolig?
Mae Eurgain Haf, a'i gŵr Ioan, wedi mabwysiadu mab bach - ac yma, mae Eurgain yn myfyrio ar yr Ŵyl drwy lygaid plentyn dyflwydd a hanner oed a sut mae'r Nadolig wedi newid ers dod yn rhieni.
Gŵyl y Baban
"Daeth Gŵyl y Baban â gwên 'nôl i'r byd . . . ."
Ac ydan, mi rydan ni'n gwenu lot fawr ar y funud, yn enwedig wrth dystio dychymyg dyflwydd a hanner oed yn trio gwneud synnwyr o'r holl fusnes.
"Ti'n licio'r goeden Nadolig ta?"
Mae'r penfelyn yn nodio'n synfyfyriol. Cyn cymryd arno'i hun i deimlo a thycio a phlycio ar bob pelen a siâp a golau sy'n crafangu ar y brigau plastig. Yna mae'r dwylo bach yn troi tu chwith allan ac yn esgyn i'r awyr mewn cwestiwn:
"Ond Mami, ble mae'r arth wen?"
Arth Wen?! Wel ia siŵr, does yna'r un Goeden Nadolig yn gyflawn heb un o'r rheiny! Mam wirion!
Calendr Dei Tomos!
Wyddoch chi hefyd fod Dei Tomos yn parhau i fod yn bresenoldeb plygeiniol yn ein tŷ ni? A hithau'n dal yn dywyll fel bol buwch tu allan ac yn rhywbeth-wedi-chwech-o'r gloch y bora mae'r llygaid glas wedi bod yn pefrio a'r bys yn pwyntio at y calendr Adfent Tomos Y Tanc ar ben y silff ben tân; calendr gafodd ei fedyddio yn 'Calendr Dei Tomos' am ryw reswm. "Agor Dei Tomos ia Mami?' Ac yn ddefodol ers Rhagfyr y 1af mae 'na wên gynnes wedi bod yn cosi fy nhu mewn wrth ei weld yn mwynhau'r darn lleiaf o siocled hefo'i lefrith boreol...wel, mae hi'n Ddolig tydi!
Ac wedyn dyna chi'r busnes Siôn Corn yma...mae o'n adnabod y gŵr barfog, boliog o ran ei bryd a'i wedd ac yn gallu canu 'Pwy sy'n dŵad dros y bryn' hefo arddeliad. Ond wedyn ydi o wir yn dallt pwy ydi o a beth yw'r Nadolig...Pwy a ŵyr?
Dw i wedi trio egluro mai dyn clên sy'n byw ym Mhegwn y Gogledd, hefo llond ogof o gorachod sy'n gwneud llond sach o anrhegion iddo fo a holl blant y byd am iddyn nhw fod yn dda dros y flwyddyn ydi Siôn Corn. Ac ar Noswyl Nadolig ei fod yn hedfan drwy'r awyr ar sled sydd wedi ei dynnu gan geirw ac yn glanio ar do tŷ ni ac wedyn yn dŵad i lawr y simnai ac yn bwyta'r mins pei a'r llaeth y byddwn ni wedi ei roi allan iddo...ffiw!
Wedyn, wrth gwrs dros yr wythnosau dwytha, 'ma mi rydan ni wedi ffeindio'n hunain wyneb yn wyneb â'r 'dyn ei hun' mewn llu o wahanol bartïon a grotos. Ac mae pob un wedi gofyn yr un cwestiwn iddo: "Be tisho gofyn i Siôn Corn?" A'r un ateb plaen maen nhw i gyd wedi ei dderbyn gan y penfelyn: "Ydi'r fuwch yn y stabl? Na, mae'r fuwch yn y beudy!" (Dyma ei hoff gyfarchiad i ddieithriad ar y funud!). Ac ia, ar wyneb Siôn Corn mae'r olwg ddryslyd y tro hwn!
Y darlun yn gyflawn
Daw, fe ddaw'r darnau jigsô i gyd ynghyd yn eu tro ac erbyn y flwyddyn nesa' mi fydd darlun y Nadolig yn gyflawn, a gwir ystyr y dathlu gobeithio.
Ac ers i'r penfelyn ddod ar ein haelwyd mae ein darlun ninnau o fywyd teuluol hefyd yn gyflawn. Wedi i ni dreulio bron i 20 Dolig yng nghwmni ein gilydd fel cwpwl, yn mwynhau ac yn dathlu heb ei ail, erbyn hyn mae holl hud ein plentyndod ninnau wedi dychwelyd wrth i ni brofi gwefr y Nadolig trwy lygaid ein plentyn ninnau.
Dyma fydd ein hail Nadolig gyda'r penfelyn ers i ni ei fabwysiadu ym Mehefin 2013 a hynny yn dilyn proses o ryw 15 mis. Dros y cyfnod bu'n rhaid i ni mynd ar gyrsiau hyfforddiant, darllen yn eang am y pwnc a chael ein holi'n dwll am bob agwedd o'n bywydau gan ein gweithwraig gymdeithasol.
Ond â hynny i gyd y tu ôl i ni, mae'n Nadolig bob dydd yn ein tŷ ni erbyn hyn â ninnau wedi derbyn rhodd ein bywydau a ddaeth a chariad a llawenydd, a gwên i'n byd.