Oes dyfodol i'r weinidogaeth?
- Cyhoeddwyd

Oes dyfodol i'r weinidogaeth yng Nghymru yn 2015?
Dros y blynyddoedd diwethaf mae nifer yr addolwyr wedi gostwng yn gyson yn eglwysi a chapeli Cymru. Mae nifer o addoldai wedi cau ac mae sawl gofalaeth yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i weinidog.
Roedd dros 100 o weinidogion yn gofalu am gapeli'r Annibynwyr ledled Cymru yn 2003. Ar ddechrau 2015 mae'r nifer wedi gostwng i 75. Meddai Alun Lenny, Swyddog Cyfathrebu Undeb yr Annibynwyr Cymraeg:
"Er bod niferoedd y gweinidogion wedi disgyn dros y blynyddoedd diweddar, mae mwy o gwymp wedi bod yn yr aelodaeth.
"Yn ogystal â 75 o weinidogion mae 9 o arweinyddion eglwysi, gydag un ohonyn nhw â diddordeb mewn dod yn weinidog.
"Gall gapel edrych yn llawn ar fore Sul, ond mae hynny oherwydd bod gymaint wedi teithio o bellter er mwyn bod yno. Mae'r niferoedd yn amrywio o gapel i gapel, gyda chapel fel y Priordy yng Nghaerfyrddin, er enghraifft, yn dal i ddenu oedfa niferus."
Mae'r Parchedig Carwyn Siddall ymhlith y to newydd o weinidogion sydd wedi eu hordeinio yn ddiweddar. Mae'r gŵr o Ynys Môn wedi bod yn gofalu am Eglwys yr Annibynwyr yn Llanuwchllyn ers deunaw mis:
"Ar gychwyn anghydffurfiaeth yma yng Nghymru, yn aml iawn, pobl leol fyddai'n arwain yr addoliad, gyda gweinidogion yn codi o blith eu cynulleidfaoedd eu hunain.
"Ymdeimlad o alwad gan Dduw sy'n arwain unigolyn i weinidogaethu, a thros amser, dechreuodd eglwysi gydnabod eu gweinidogion.
"Heddiw, ni ellir gwadu bod prinder gweinidogion, ond calondid yw gweld gweinidogion newydd yn codi ac yn cael eu hordeinio. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gwelwyd rhai yn codi o blith eu cynulleidfaoedd eu hunain i weinidogaethu ar eu heglwysi eu hunain, a hyn felly yn dilyn y patrwm ar y cychwyn.
"Er nad yw'r hyn ydi'r weinidogaeth wedi newid, mae'r ffordd o gyflawni gweinidogaeth yn naturiol wedi datblygu a newid."
Mae'r Parchedig Goronwy Evans newydd ymddeol ar ôl bod yn weinidog gyda'r Undodiaid yn Llanbedr Pont Steffan am hanner canrif. Mae o hefyd yn credu bod y weinidogaeth yn wynebu sawl her:
"Traddodiad crefydd rydd, mudiad yr Undodiaid a dylanwad ei gweinidogion a'm harweiniodd i ymddiddori ac i ymgymryd â'r weinidogaeth.
"Erbyn hyn 'rwyf wedi cyflawni hanner can mlynedd yn y gwaith. Yr un fu ac yw neges yr Iesu er bu rhaid newid y dull o'i chyflwyno.
"Yn y bregeth ar y mynydd dywed yr Iesu "Llewyrched eich goleuni ger bron dynion nes iddynt weld eich gweithredoedd da chwi...", ac mae'r gweithredoedd da hynny i dynnu sylw, nid at yr hunan, ond at Dduw'r Cariad."
Mae Carwyn Siddall hefyd yn cydnabod bod angen addasu'r dull o gyflwyno'r efengyl:
"I gyflawni'r weinidogaeth, gellir manteisio i raddau ar wahanol gyfryngau, boed drwy ddefnyddio'n gwefannau, podlediadau, e-byst ayyb, yn ogystal â'r ffyrdd mwy traddodiadol.
"Oddi mewn i addoliad hefyd, gellir defnyddio fideos, cyflwyniadau PowerPoint ayyb i gyfrannu at yr Oedfa."
Arwain gwasanaethau
Mae o hefyd am weld aelodau capeli yn cael rhagor o gyfrifoldeb am wasanethau:
"Rydw i'n credu'n gryf fod gan bawb ddoniau, ac os oes rhai oddi mewn i gynulleidfaoedd yn teimlo fod ganddynt y ddawn i arwain addoliad - gwych! Wedi'r cyfan, mae'r Testament Newydd ei hun yn annog gweinidogaeth yr Holl Saint (Effesiaid 4:12).
"I fod yn ymarferol, mae cymaint o ddeunydd arwain addoliad i'w gael heddiw, mae arwain addoliad yn rhywbeth y gall llawer o bobl ymgymryd ato."
Mae Goronwy Evans hefyd yn awyddus i weld rhagor o unigolion yn ymgymryd â'r gwaith bugeilio ac arwain gwasanaethau:
"Yn wir, mae geiriau Iago yr un mor berthnasol heddi ac a fu. "Byddwch wneuthurwyr y gair ac nid gwrandawyr yn unig, gan eich twyllo eich hunain."
"Mae'r maes yn eang a'r gwaith yn fawr ond mae angen rhagor o weithwyr. Ymunwch nawr - 'does dim gwaith tebyg yn bod."
Ac yntau yn nyddiau cynnar ei weinidogaeth mae Carwyn Siddall yn ffyddiog bod 'na ddyfodol llewyrchus i Gristnogaeth yng Nghymru ac na fydd prinder o bobl i ledaenu'r Efengyl:
"Rwyf yn credu na fu i Dduw adael yr un genhedlaeth yn ddi-dyst, ac felly rwy'n gwbl hyderus y bydd y dystiolaeth Gristnogol yn fyw yma yng Nghymru i'r dyfodol, a chyda'r amryw gyfryngau posib y gellir manteisio arnynt, gellir cyrraedd cynulleidfa eang iawn wrth weinidogaethu.
"Yn sicr, bydd Duw yn parhau i alw pobl i'r weinidogaeth Gristnogol yma yng Nghymru, i dystio iddo, ac i gyflawni'r gwaith."
Ydych chi'n cytuno gyda Carwyn Siddall a Goronwy Evans? Cysylltwch gyda cymrufyw@bbc.co.uk