Hanner canrif o nofio ar fore Dolig
- Cyhoeddwyd

Am chwarter i hanner dydd ar ddydd Nadolig, mae'n debyg y bydd y mwyafrif ohonoch yng nghanol y paratoadau at eich cinio mawr.
Os oes rhai ohonoch ddim yn rhy awyddus i fod yn y gegin, ac awydd gwneud rhywbeth mentrus, efallai mai Porthcawl yw'r lle i chi.
Yno bydd y digwyddiad blynyddol lle mae cannoedd ar gannoedd o bobl yn llamu i'r môr i nofio, ac eleni mae mwy nag erioed am wneud hynny.
Mae hynny'n rhannol gan mai dyma'r 50fed flwyddyn i'r nofio mawr gael ei gynnal, ac mae'r pen-blwydd yn un pwysig i un o'r trefnwyr, Owen Richards. Dywedodd:
"Fy nhaid, Arlon Owens, oedd un o sylfaenwyr y digwyddiad ac o ganlyniad mae fy nheulu estynedig wastad ar y traeth ar fore Nadolig. Mae mam, fy chwaer a fy modryb wedi bod yn aelodau o'r pwyllgor gwirfoddol sy'n help mawr.
Ym mhob tywydd
"Byddai Arlon yn mentro i'r môr bob tywydd, felly doedd y Nadolig ddim yn eithriad, ac ar ôl sgwrs gyda chyfaill am hybu Porthcawl a chefnogi busnesau lleol daeth y syniad o nofio er budd elusen ar y diwrnod.
"Yn y dyddiau cynnar roedd y nofwyr yn cwrdd ar y traeth, yn ysgwyd llaw, ac yna i mewn i'r môr tra bod rhai'n dod i wylio o'r lan. Dros y blynyddoedd mae'r digwyddiad wedi tyfu a bellach mae dros 1,000 o nofwyr yn ymgynnull.
"Mae'n waith caled trefnu'r holl beth. Mae'r pwyllgor yn codi llawer o arian i dalu unrhyw gostau, ac rydym yn dewis elusen bob blwyddyn a cheisio perswadio pobl i gael eu noddi i nofio.
"Yr elusennau fydd yn elwa eleni yw Tŷ Hafan a The Sandville.
"Ers y dechrau fyddwn i'n amcangyfrif bod y digwyddiad wedi codi tua £100,000, a phe bai bob nofiwr yn cofrestru a chodi £10, fe fyddai gennym £10,000 i roi eleni, ac fe fyddai hynny'n wych.
"Eleni rydym yn annog pobl i wisgo naill ai fel clown neu Lychlynwyr! Byddai Arlon bob tro'n gwisgo fel clown ar ddydd Dolig, ac roedd un arall o aelodau'r pwyllgor sydd wedi ein gadael - Dai Thomas - yn cael ei adnabod fel 'The Viking' oherwydd ei farf llaes."
Gŵyl San Steffan
Y traddodiad yn Ninbych-y-Pysgod yw nofio yn y môr ar Ddydd Gŵyl San Steffan, ac mae digwyddiad eleni'n un pwysig i'r trefnwyr yno hefyd.
Wrth i gannoedd o bobl fynd i'r dŵr 10 mlynedd yn ôl, roedd un cyfreithiwr lleol, Paul Cowper, a'i deulu yn ffodus dros ben i ddianc o'r tswnami yn Sri Lanka.
Arweiniodd y profiad yna at sefydlu elusen START (Sri Lanka Trust to Aid and Rebuild Tangalle), sydd eisoes wedi codi £75,000 i amryw brosiectau yn y dref honno.
Fe fydd e a nifer o gefnogwyr yn gwisgo crysau-T ar gyfer y digwyddiad eleni yn Sir Benfro er mwyn atgoffa pobl o'r tswnami a'r holl fywydau a gollwyd.
Bydd criw Dinbych-y-Pysgod yn llamu i'r môr am 11:30 fore Gwener.
Ymhellach i'r dwyrain fe fydd criw'r Walrus Dip yn gwneud yr un peth am 11:00 ar draeth Cefn Sidan ym Mhenbre, Sir Gâr.
Ers i'r digwyddiad gael ei gynnal am y tro cyntaf yn 1984, mae'r trefnwyr wedi codi miloedd ar filoedd o bunnau i amryw elusennau, ac er fod croeso i wisg ffansi o bob math, mae'n debyg mai cannoedd o bobl mewn gwisg Siôn Corn fydd yn ymddangos eto.