Menyw yn cael ei tharo gan gar ym Mhenarth
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Arall
Roedd y ddamwain yn Heol Larnog
Mae'r heddlu'n apelio am dystion am fod menyw 90 oed mewn cyflwr difrifol iawn ar ôl cael ei tharo gan gar ym Mhenarth, Bro Morgannwg.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Heol Larnog am 17:10 nos Fawrth.
Dywedodd Heddlu'r De fod y fenyw wedi ei chludo mewn ambiwlans i'r Ysbyty Athrofaol yng Nghaerdydd.
Yn ôl llefarydd, car Peugeot arian wnaeth ei tharo hi.