Arian loteri yn hwb i brosiect llys Tywysog Llywelyn
- Cyhoeddwyd

Argraff artist o lys Llywelyn
Mae Amgueddfa Cymru wedi derbyn £175,000 drwy'r Loteri Cod Post.
Dywedodd llefarydd ar ran yr Amgueddfa Werin y byddai cyfran o'r arian "yn helpu talu am ddau saer maen fydd yn gweithio ar ail-greu Llys Rhosyr, llys y Tywysog Llywelyn, oedd yn wreiddiol ger Niwbwrch ar Ynys Môn".
Hwn oedd un o lysoedd brenhinol Llywelyn Fawr (1173-1240) tywysog Gwynedd yn y drydedd ganrif ar ddeg.
Fe gafodd ei olynu gan ei fab Dafydd ap Llywelyn.
Mae'r amgueddfa wedi dweud y bydd ail-greu'r llys yn un o'r prosiectau archeolegol mwyaf heriol yng Nghymru.
Pan fydd wedi ei orffen bydd plant ysgol a grwpiau yn gallu aros dros nos yno.
Cafodd Llys Rhosyr ei ddarganfod gan yr archeolegwr Neil Johnstone yn 1992 ger eglwys Niwbwrch.
Ffynhonnell y llun, Arall
Y safle yn yr Amgueddfa Werin: lluniau drwy garedigrwydd Beth Thomas