Gwrthdrawiad: Menyw 90 oed wedi marw

  • Cyhoeddwyd
Heol LarnogFfynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,
Roedd y ddamwain yn Heol Larnog

Mae menyw 90 oed gafodd ei tharo gan gar ym Mhenarth brynhawn Mawrth wedi marw yn yr ysbyty.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 17:10 ddydd Mawrth, 23 Rhagfyr, i'r B4267 Heol Larnog.

Roedd y fenyw wedi cael ei tharo gan gar Peugeot lliw arian oedd yn cael ei yrru gan fenyw 70 oed.

Cafodd y fenyw a darwyd ei chludo i Ysbyty'r Brifysgol yng Nghaerdydd, ond bu farw yno dros nos.

Mae teulu'r fenyw a'r crwner wedi cael gwybod am ei marwolaeth.

Mae'r heddlu yn parhau i ymchwilio i'r gwrthdrawiad, ac yn gofyn i unrhyw un a welodd y fenyw yn cerdded ar hyd Heol Larnog, neu'r car yn teithio ar hyd yr un ffordd i gysylltu â nhw drwy ffonio 101 a nodi'r cyfeirnod 1400476692.