Cynllun corawl: Hwb ariannol
- Cyhoeddwyd

Fe fydd cynllun corawl Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau yn derbyn cefnogaeth ariannol gan gwmni RWE Innogy UK.
Yn ogystal, fe fydd cyngerdd y côr yn ystod y 'Steddfod yn cael ei noddi gan y cwmni.
Yn rhan o'r cynllun corawl, mae bron i 200 o gantorion o'r dalgylch yn cael cyfle i gwrdd i ymarfer yn eu cymuned, a dod ynghyd unwaith y mis i baratoi am gyngerdd ar lwyfan y Pafiliwn.
Dyma'r tro cyntaf i gynllun o'r fath gael ei drefnu gan yr Eisteddfod, a chyda cyfran fawr o'r cantorion yn bobl ifanc, mae'n ymddangos fod y cynllun wedi cydio gydag unigolion o bob cenhedlaeth.
Mae'r Eisteddfod yn cydweithio gyda chorau sydd eisoes yn bodoli ar hyd a lled y dalgylch yn ogystal â chreu amryw o gorau newydd.
Mae'r rhain yn cyfarfod ac yn ymarfer yn lleol yn rheolaidd drwy gydol y flwyddyn, gan ddod ynghyd ar gyfer nifer o ymarferiadau torfol mewn lleoliad canolog, dan arweiniad y trefnydd cerddorol ac arweinydd, Jeff Howard.
'Hwb i'r ŵyl'
Gan groesawu'r bartneriaeth, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, "Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn rhan greiddiol o Gymru, yn hyrwyddo'r Gymraeg a'n diwylliant, gan weithio ar lawr gwlad mewn gwahanol rannau o Gymru bob blwyddyn, a chredaf y bydd y bartneriaeth rhwng y ddau sefydliad a gyhoeddir heddiw yn hwb i'r ŵyl ac i'r cymunedau ar draws Maldwyn a'r Gororau."
Meddai Rheolwr Datblygu Cymru RWE, Jeremy Smith, "Mae RWE yn falch iawn i fod yn bartner i'r Eisteddfod ym Maldwyn a'r Gororau yn 2015, a daw ein partneriaeth mewn cyfnod cyffrous i'r diwydiant ynni gwynt ym Mhowys.
"Rydym yn arbennig o falch i gefnogi cynllun corawl yr Eisteddfod gan ei fod yn ymateb i'n dyhead i fod yn rhan o'r cymunedau lle y lleolir ein ffermydd gwynt, ac rydym yn rhannu nifer o'r un gwerthoedd, gan gynnwys creu cymunedau sy'n gynaliadwy o safbwynt ynni, yr economi a diwylliant."
Ychwanegodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts, "Rwy'n falch iawn o groesawu cwmni RWE Innogy UK fel un o gefnogwyr y Brifwyl a'r prosiect cymunedol eleni. Mae'n braf cael cefnogaeth gan gwmni sydd wedi buddsoddi cymaint yn y gymuned dros gyfnod mor helaeth.
"Mae'r cynllun corawl yn brosiect newydd ar gyfer eleni - côr yr Eisteddfod ar ei newydd wedd - a chynllun rydym yn awyddus iawn i'w weld yn llwyddo ac yn ffynnu. Mae cefnogaeth RWE Innogy UK yn hwb mawr i'r cynllun ac i'n gwaith ni ar lawr gwlad yn ardal Maldwyn a'r Gororau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Medi 2014