Achub llanc o'r môr ger Abersoch
- Cyhoeddwyd
Fe ddywed Gwylwyr y Glannau eu bod wedi rhoi "cyngor diogelwch cadarn" i fachgen 15 oed gafodd ei chwythu allan i'r môr ddydd Mercher.
Roedd y bachgen wedi mynd i'r dŵr ger Abersoch mewn dingi pwmpiadwy.
Cafodd y gwasanaethau brys ei galw gan deulu'r bachgen wedi iddyn nhw sylweddoli ei fod mewn trafferthion ger traeth y Warren yn y pentref.
Aeth bad achub Abersoch allan i'w gynorthwyo, gan lwyddo i'w dynnu i'r lan.
Roedd y llanc yn oer, ond nid oedd angen triniaeth feddygol arno.