City Link: Bygythiad i 90 swyddi
- Cyhoeddwyd

Mae 90 o swyddi yn y fantol yng Nghymru wedi i gwmni parseli City Link fynd i ddwylo'r gweinyddwyr ar noswyl Nadolig.
Mae gan y cwmni dair canolfan yng Nghymru - yng Nghaerdydd, Abertawe a Gaerwen, Ynys Môn. Ar draws y DU, maen nhw'n cyflogi 2,727 o bobl.
Ddydd Gwener dywedodd y gweinyddwyr fod cyfanswm o 90 o swyddi dan fygythiad yn nhair canolfan y cwmni yng Nghymru: 44 yng Nghaerdydd, 30 yn Abertawe a 16 yng Nghaerwen ar Ynys Môn.
Roedd City Link - sy'n berchen i gwmni buddsoddi Better Captial - wedi galw'r gweinyddwyr ar Noswyl Nadolig ar ôl blynyddoedd o "wneud colledion sylweddol".
Roeddan nhw eisoes wedi rhoi'r gorau i dderbyn parseli gan gwsmeriaid yn eu pencadlys a'u prif ganolfannau dosbarthu, yn ogystal â'r 53 safle ar draws y DU.
Mae'r gweinyddwyr - Hunter Kelly ac Ernst & Young ar y cyd - wedi rhybuddio bod disgwyl "diswyddiadau niferus" dros y dyddiau nesa', gan nad oes prynwr wedi dod i'r fei hyd yma.
Mae gweithgarwch wedi dod i stop ym mhob un o safleoedd y cwmni tan ddydd Llun, pan fydd cwsmeriaid yn gallu mynd i gasglu eu parseli.
Dywedodd llefarydd ar ran y gweinyddwr, Hunter Kelly: "Mae City Link wedi gwneud colledion sylweddol ers sawl blwyddyn. Mae'r colledion hyn yn adlewyrchu cyfuniad o gystadleuaeth ffyrnig o fewn y sector, newid yn yr hyn mae cwsmeriaid eisiau, a thrafferthion y cwmni wrth dorri costau."
"Roedd pwysau'r colledion hyn wedi mynd yn ormod ac wedi bron â llyncu'r buddsoddiad o £40m gan Better Capital, a gafodd ei wneud yn 2013 ac a oedd i fod i achub y cwmni. Er gwaetha'r ymdrechion hynny, yn ogystal ag ymgais i werthu'r cwmni, doedd dim modd parhau fel busnes a chafodd y gweinyddwyr eu galw."