Abertawe 1-0 Aston Villa
- Cyhoeddwyd

Roedd sawl un wedi darogan mai brwydr rhwng Wilfried Bony a Christian Benteke fyddai'r gêm yn Stadiwm Liberty ddydd Gwener, gyda'r ddau ymosodwr ar eu gorau ar hyn o bryd.
Abertawe sgoriodd gynta, a hynny wedi 13 munud. Daeth cic rydd i'r tîm cartref ac fe grymanodd Gulfi Sigurdsson y bêl i'r gornel gydag ergyd wych.
Fe ddaeth ergyd i'r Elyrch wedi 20 munud pan fu'n rhaid i Jefferson Montero adael y cae gydag anaf, ond mae'n arwydd o gryfder y garfan bellach fod Garry Monk wedi gallu dod â Wayne Routledge ymlaen fel eilydd.
Peth anarferol yw gweld tîm yn dod i'r Liberty a chael mwyafrif y meddiant, ond dyna lwyddodd i Villa wneud heb greu cyfleoedd clir.
Er hynny roedd angen i Fabianski fod ar ei orau cyn y diwedd i arbed un o nifer o gynigion.
Mae'r fuddugoliaeth yn codi Abertawe i'r seithfed safle yn yr Uwchgynghrair am y tro.